Owen Rhoscomyl

anturwr ac awdur

Awdur llyfrau plant a hanesydd poblogaidd o Gymru oedd Owen Rhoscomyl (enw bedydd: Robert Scourfield Mills) (6 Medi 186315 Hydref 1919). Mabwysiadodd yr enw Arthur Owen Vaughan yn ddiweddarach ond roedd yn adnabyddus yn bennaf wrth ei ffugenw llenyddol.

Owen Rhoscomyl
Ganwyd6 Medi 1863 Edit this on Wikidata
Southport Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 1919 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantOlwen Vaughan Edit this on Wikidata
Llinachteulu Vaughan Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Urdd Gwasanaeth Nodedig, Distinguished Conduct Medal Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganed Rhoscomyl yn Southport, Glannau Merswy, ond cafodd ei fagu gan ei nain ym mhentref Tremeirchion, Sir y Fflint. Rhedodd i ffwrdd i grwydro'r byd pan yn llanc a threuliodd gyfnod yn Ne Affrica lle arweiniodd gatrawd o feirch yn Rhyfel y Boer.

Dychwelodd i Gymru ac ymroddodd i lenydda yn Saesneg. Ymddengys nad oedd yn medru llawer o Gymraeg oherwydd ei fagwraeth, ond ymfalchiai yn ei dras Gymreig a mabwysiadodd yr enw mwy Cymreig 'Arthur Owen Vaughan'. Mae'r cyfenw gwneud yn ei ffugenw, 'Owen Rhoscomyl', yn dod o lythrennau cyntaf ei enw bedydd.

Gwaith llenyddol golygu

 
Flame-bearers of Welsh History (1905).

Cyhoeddodd sawl nofel antur Saesneg i fechgyn, yn cynnwys The White Rose of Arno (1896), a leolir yng ngwledydd Prydain yng nghyfnod y Jacobiniaid. Nofel arall, a leolir yng Nghymru, yw The Jewel of Ynys Galon (1895).

Ond ei waith mwyaf adnabyddus a dylanwadol yw Flame-Bearers of Welsh History, a gyhoeddwyd ym Merthyr Tudful yn 1905. Ei deitl llawn yw: Flame-bearers of Welsh history, being the outline of the story of The sons of Cunedda. Cyfrol i fechgyn ysgol oedd hon, ond roedd ei nod yn uchelgeisiol. Dymunai Rhoscomyn adfer ei le priodol i hanes Cymru yn ysgolion y wlad a dileu'r agweddau Seisnigaidd ar ei astudiaeth trwy ddod ac arwyr y gorffennol yn fyw o flaen llygaid ei ddarllenwyr. Ceir rhagymadrodd gan Syr John Rhŷs a Kuno Meyer, dau o ysgolheigion Celtaidd mwyaf y cyfnod. Gwnaeth y Flame-bearers lawer i ledaenu gwybodaeth am Owain Glyndŵr, er enghraifft. Fe'i disgrifir fel arwr a ymgeleddai'r werin bobl: yn ateb i'r cwestiwn "ble gladdwyd Glyndŵr?" ceir yr ateb ei fod yn gorffwys yng nghalon pob gwir Gymro lle bydd yn aros yn ysbrydoliaeth i'r genedl am byth.[1] Ond nid oedd y llyfr gwladgarol twymgalon hwn yn gymeradwy gan bawb a chafwyd ymateb adweithiol yn ei erbyn gan rai o "Sanhedrin" y system addysg yng Nghymru ac academyddion y Sefydliad. Gwerthodd nifer fawr o gopïau er hynny, ac mae lle i ddadlau ei fod yn un o'r cyfrolau hanes poblogaidd mwyaf dylanwadol erioed yng Nghymru, a gafodd ei ddarllen gan gynulleidfa ehangach o lawer na'r un yr anelwyd ati yn wreiddiol.

Llyfryddiaeth golygu

Nofelau golygu

  • The Jewel of Ynys Galon (1895)
  • The White Rose of Arno (1896)
  • Old Fireproof (1906)
  • Vronina (1907)
  • Love Tree Lode (1913)

Llyfrau hanes golygu

  • Flame-Bearers of Welsh History (Merthyr Tudful, 1905)
  • The Matter of Wales (1913)

Llyfryddiaeth golygu

  • (Saesneg) Ellis, John S., Owen Rhoscomyl (Gwasg Prifysgol Cymru, 2016)

Cyfeiriadau golygu

  1. Elissa R. Henken, National Redeemer, tud. 174.

Dolenni allanol golygu