Mae pH yn cyfeirio at "pŵer Hydrogen" neu "potensial Hydrogen" ac mae'n fesur o asidedd hydoddiant dyfrllyd yn nhermau actifedd hydrogen. Er hynny, mewn hydoddiannau gwan, mae'n fwy cyfleus i amnewid actifedd yr ïonau hydrogen gyda molaredd (mol dm−3) yr ïonau hydrogen (nid yw hwn o reidrwydd yn fanwl gywir ar grynodiadau uwch). Cai sylwedd ei labelu'n asid os yw ei lefel pH yn is na 7 ac yn alcalïaidd os uwch na 7.

Y raddfa pH gyda rhai gwrthrychau pob-dydd.

Diffinnir pH fel log negyddol crynodiad y protonau mewn hyddodiant:

pH = -log10[H3O+ (aq)]

yn yr ecwilibriwm:

HA (aq) + H2O (l) ⇌ H3O+ (aq) + A- (aq)

lle A = asid.

Cyflwynwyd y cysyniad hwn o raddfa pH gan y biocemegydd Danaidd Søren Peder Lauritz Sørensen o Labordy Carlsberg, yn 1909.

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.