POW/MIA Americanaidd yn Fietnam

Ers enciliad lluoedd milwrol yr Unol Daleithiau rhag Indo-Tsieina yn ystod Rhyfel Fietnam bu dadleuon dros dynged Americanwyr ar goll ar faes y gad (MIA). Yn sgîl Cytundebau Heddwch Paris ym 1973, dychwelwyd 591 o garcharorion rhyfel (POW) yn ystod Ymgyrch Homecoming. Yn ôl yr Unol Daleithiau mae 1,350 o Americanwyr yn garcharorion rhyfel neu ar goll ar faes y gad a rhyw 1,200 bu farw ar faes y gad a'u cyrff heb eu canfod. Peilotiaid oedd nifer o'r rhain a gafodd eu saethu i lawr dros Ogledd Fietnam a Laos. Chwaraeodd ymgyrchwyr POW/MIA ran wrth berswadio llywodraeth yr Unol Daleithiau i wella'i hymdrechion i ddod â therfyn i'r mater. Proses araf oedd hon nes canol y 1980au wrth i gysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a Fietnam wella.

Y faner POW/MIA.

Mae nifer o ymchwiliadau cyngresol wedi ystyried y mater, gan gynnwys Pwyllgor Dethol Senedd yr Unol Daleithiau ar Faterion POW/MIA ym 1991–1993 dan arweiniad y Seneddwyr John Kerry, Bob Smith, a John McCain. Ni chanfododd unrhyw dystiolaeth gadarn fod carcharorion Americanaidd ar ôl yn Ne Ddwyrain Asia. Mae rhai yn parhau i gredu bod cynllwyn gan lywodraethau Americanaidd a Fietnamaidd i guddio tystiolaeth o garcharorion Americanaidd yn yr ardal.

Darllen pellach golygu

  • Allen, Michael J. Until the Last Man Comes Home: POWs, MIAs, and the Unending Vietnam War (Chapel Hill, Gwasg Prifysgol Gogledd Carolina, 2009).