Pa Gwr yw y Porthawr

cerdd Gymraeg o'r 13g

Cerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin yw Pa Gwr yw y Porthawr, neu yn yr orgraff wreiddiol Pa Gur yv y Porthaur, "Pa ŵr yw'r porthor?" mewn Cymraeg diweddar. Credir fod y gerdd yn dyddio o tua'r 10g, ac mae'n ffynhonnell bwysig ar gyfer astudiaeth o Arthur. Nid oes teitl fel y cyfryw ar y gerdd; daw'r enw arni o'r llinell gyntaf.

Pa Gwr yw y Porthawr
Enghraifft o'r canlynolcerdd Edit this on Wikidata
Rhan oLlyfr Du Caerfyrddin Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi10 g Edit this on Wikidata
Prif bwncRhamant Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGlewlwyd Gafaelfawr, Cai, Bedwyr, Manawydan, Mabon fab Modron Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Dechreua'r gerdd gyda'r cwestiwn yma, yna ateba'r porthor mai Glewlwyd Gafaelfawr ydyw. Hola yntau yn ei dro pwy sy'n gofyn, a chaiff ar ateb mai Arthur a Cei sydd yno. Ymddengys eu bod yn dymuno cael mynediad i gaer sy'n cael ei chadw gan Glewlwyd. Hola Glewlwyd pwy sydd gyda hwy, ac aiff Arthur ymlaen i ganmol gwrhydri ei wŷr, yn enwedig Cei a Bedwyr. Ymhlith gorchestion Cei, dywedir iddo ladd cath enfawr, Cath Palug. Dywedir i Bedwyr ladd cannoedd ym mrwydr Tryfrwyd. Ymhlith eraill, enwir Manawydan fab Llŷr a Mabon fab Modron; dywedir bod Mabon yn was i Uthr Bendragon.

Llyfryddiaeth golygu

  • A . O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1982)
  • John T. Koch a John Carey(gol.) The Celtic Heroic Age: literary sources for ancient Celtic Europe and early Ireland and Wales (Maldon, Mass., 1995).
  • Brynley F. Roberts, 'Rhai o gerddi ymddiddan Llyfr Du Caerfyrddin', yn Astudiaethau ar yr Hengerdd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt. 296-309.
  • Gwyn Thomas, Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976), tt. 68-71.