Pabi Coch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Ranunculales
Teulu: Papaveraceae
Genws: Papaver
Rhywogaeth: P. rhoeas
Enw deuenwol
Papaver rhoeas
L.

Pabi gwyllt â blodau coch llachar yw'r Pabi Coch (Lladin: Papaver rhoeas). Fe'i cysylltir ag amaeth ers sawl mileniwm, ac mae'n chwynnyn nodweddiadol mewn caeau ŷd. Mae'n unflwydd, gyda'r blodau'n ymddangos yn hwyr yn y gwanwyn fel arfer.

Tyf un blodyn ar bob corsen fain, flewog. Mae pedwar petal ganddo, gyda smotyn du tua gwaelod pob un fel arfer.

Yn ogystal â bod yn chwynnyn cyffredin, fe'i tyfir yn fwriadol am ei hadau, a defnyddir wrth pobi ac i ychwanegu blas. Mae'r blodau yn fwytadwy yn ogystal, a gellir eu defnyddio mewn salad neu i wneud surop neu ddiodydd.

Pabi Coch (Papaver rhoeas)

Symbol o waed golygu

Mae'r pabi coch yn symbol goffa ar gyfer y rhai a fu farw mewn rhyfeloedd, a hynny ers adeg y Rhyfel Byd Cyntaf gan eu bod yn tyfu ar gaeau Fflandrys. Fe'u gwisigir yng ngwledydd y Gymanwlad ar Sul y Cofio. Yn Hydref 2016 gwnaeth Ffederasiynau pêl-droed Lloegr a'r Alban gais i FIFA ganiatau i'w chwaraewyr wisgo band-braich gyda llun y pabi arno mewn gêm i'w chynnal ar 11 Tachwedd 2016. Gwrthododd FIFA'r cais hwnnw.[1] Yn 2011 gwnaeth FIFA dro pedol munud olaf gan ganiatáu gwisgo'r band-fraich yn ystod gêm Cymru yn erbyn Norwy.

Fel protest yn erbyn y dull imperialaidd o ddyrchafu'r pabi coch i goffáu Prydeinwyr yn unig, yn y 1980au dechreuodd rai wisgo pabi gwyn yn arwydd o heddwch a choffâd pawb a laddwyd mewn rhyfeloedd.

Oriel golygu

Ffenoleg golygu

Tynnodd Gerallt Pennant y llun hwn [1] rhwng Bewdley a Stourport ar 20 Mehefin 2010. Mae’n debyg fod llawer o blanhigion wedi blodeuo’n helaeth y flwyddyn honno, diolch i’r tywydd oer i ddechrau, ac yna’r sychder. Fel y dywedodd yr arddwraig Denise Quéré o Landerne, Llydaw: il faut les faire souffrir un peu - mae’n rhaid eu gwneud i ddioddef ychydig i gael llwyth o flodau.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: