Cymeriad o lenyddiaeth plant ydy Paddington Bear. Ymddangosodd gyntaf yn 1958[1] ac yn dilyn hyn, ymddangosodd mewn sawl llyfr gan Michael Bond, darlunwyd yn gyntaf gan Peggy Fortnum. Daeth yr arth parchus yn fewnfudwr i Lundain o Periw, gyda'r hen het, ei gês a'i frechdannau marmalêd yn eicon clasurol yn llenyddiaeth plant Saesneg. Mae llyfrau Paddington wedi eu cyfieithu i dros 30 iaith; mae 70 teitl ac mae 30 miliwn copi wedi eu gwerthu ar draws y byd. Mae 265 o drwyddedwyr, gyda miloedd o wahanol gynnyrch ar draws Prydain, Ewrop, Yr Unol Daleithiau, De-ddwyrain Asia, Siapan, Awstralia a De Affrica.[2]

Cerflun efydd o Paddington Bear yng Ngorsaf Paddington

Mae Paddington yn arth sydd wedi ei anthropomorffeiddio. Mae wastad yn barchus, yn cyfeirio at bobl fel "Mr.", "Mrs." a "Miss" ac yn anaml wrth eu enw cyntaf. Mae'n llawn bwriad da, ond yn syllu'n galed ar y rhai sy'n ennill ei anghymeradwyaeth, mae'n hoffi brechdannau marmaled a coco, ac mae mewn trafferth yn ddi-ddiwedd er iddo drio mor galed i wneud pethau'n iawn.

Dolenni Allanol golygu

Ffynonellau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-09. Cyrchwyd 2007-11-11.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-17. Cyrchwyd 2007-11-11.