Paleograffeg (o'r Saesneg palaeography, o'r gair Groeg παλαιός 'palaiós', "hen" a γράφειν 'graphein', "ysgrifennu") yw gwyddor hen lawysgrifen, llawysgrifau ac arysgrifau, yn annibynnol ar yr iaith ei hun (e.e. Lladin, Cymraeg Canol). Fel rheol mae paleograffeg cyn golygu astudio'r llawysgrifennau a geir mewn llawysgrifau Ewropeaidd a Chlasurol (yn y gwyddorau sy'n tarddu o'r gwyddorau Groeg a Lladin). Fodd bynnag, mae llawysgrifennu o bob oes hyd heddiw yn faes dilys ar gyfer paleograffydd .

Ar sawl ystyr mae palaeograffeg yn hanfodol ar gyfer ieitheg, ac yn wynebu dau brif anhawster: yn gyntaf, gan fod arddull unrhyw un wyddor yn newid yn gyson o gyfnod i gyfnod (e.e. llythrennau Carolingiaidd, Gothig, etc.), mae'n rhaid gwybod sut i ddehongli'r arwyddion hynny yn iawn. Yn ail, mae'n arferol defnyddio byrfoddau, neu arwyddion byrfoddol, mewn hen lawysgrifau er mwyn arbed lle (roedd y deunydd yn brin a drud): felly rhaid i'r palaeograffydd wybod y byrfoddau hyn.

Mae'r wybodaeth hon yn caniatau i'r palaeograffydd drawslythrennu'r ddogfen a chynhyrchu golygiad modern sy'n arddangos y testun gwreiddiol mewn orgraff reolaidd, ddealladwy.

Y palaeograffydd enwocaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yw John Gwenogvryn Evans (1852 - 1930).

Cyfeiriadau golygu