Mae Parc Cwmdonkin yn barc dinesig sydd wedi'i leoli yn ardal yr Uplands o Abertawe, de Cymru. Ceir bandstand, ardal chwarae i blant, gerddi dŵr, cyrtiau tenis a lawnt fowlio yno.

Dyluniad un o gerddi Dylan Thomas, "The Hunchback in the Park", gan yr arlunydd Eidalaidd Lidia Chiarelli.

Hanes golygu

Dechreuwyd defnyddio'r tir hwn gan y cyhoedd pan grëwyd cronfa ddŵr Comdonkin tua 1850 gan William Henry Smith a'r Swansea Waterworks Company. Dengys cofnodion Bwrdeistref Abertawe[1] a phapur newydd y Cambrian [2] fod arian cyhoeddus wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cymryd drosodd a rhedeg “the destructive pit at Cwmdonkin, euphemistically called a reservoir”.[3].

Gwnaed yr awgrym cyntaf i dirweddu'r tir o amgylch y cronfa ddŵr ym 1853 ond dim ond ym 1874 y prynodd Cyngor Abertawe dau gae wrth Mr James Walters am £4650 er mwyn creu'r parc. Agorwyd y parc ar y 24ain o Orffennaf, 1874. Bu peth beirniadaeth fod y parc mewn ardal gyfoethog, dosbarth canol o'r dref; arweiniodd hyn at yr "Ymgyrch Mannau agored" o dan arweiniad William Thomas o Lan a ymgyrchodd am fwy o barciau yn yr ardaloedd tlotach, dosbarth gweithiol.[4]

Llenwyd Cronfa ddŵr Cwmdonkin gyda rwbel yn y 1950au a dirweddu i fod yn ardal i blant chwarae.

Cysylltiadau â Dylan Thomas golygu

Magwyd y bardd Dylan Thomas yn 5, Cwmdonkin Drive, ger y parc. Roedd y parc yn ffynhonnell gref o ysbrydoliaeth iddo ac ymddengys yn ei waith, gan gynnwys ei ddarllediadau radio Return Journey a Reminiscences of Childhood, ac yn fwyaf enwog yn ei gerdd The hunchback in the park.

Rhoddwyd cofeb i Thomas yn y parc ym 1963 sy'n cynnwys llinellau o'r gerdd “Fern Hill”.

Cyfeiriadau golygu

  1. I'w gweld yn West Glamorgan Archive Service
  2. "Prosiect Mynegai Cambrian Cyngor Abertawe". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-15. Cyrchwyd 2009-06-07.
  3. Golygyddol o bapur newydd the Cambrian, 14 Mai 1869
  4. Davies, Rice a J. Roberts, "Prize Essays on the desirability and advantages of recreation grounds for Swansea", Swansea: Cambrian Books Publishing Company, 1895.

Dolenni allanol golygu