Llwyth Celtaidd yng ngogledd Lloegr oedd y Parisii, yn yr ardal sy'n cyfateb, bellach, i Dwyrain Swydd Efrog (Saesneg: East Riding of Yorkshire). Roeddent yn perthyn yn agos iawn i lwyth arall o'r un enw (gweler: Parisii (Gâl)) a sefydlodd yn ardal Paris. Yr enw Lladin ar eu brenhiniaeth neu civitas oedd Parisiorum, a'r brifddinas oedd Petuaria, sef y ddinas fodern a elwir Brough.

Tiriogaeth y Parisii ar fap o Gymru a Lloegr.

I'r gogledd a'r gorllewin, eu cymdogion oedd y Brigantes, ac i'r de roedd llwyth Celtaidd y Corieltauvi - dros yr afon Humber.

Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, ailstrwythurwyd yr ardal Parisiorum dan yr enw Deifr a ddaeth yn deyrnas gref a phwerus.

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.