Gwleidydd a diplomydd Belgaidd oedd Paul Henri Charles Spaak (25 Ionawr 189931 Gorffennaf 1972) a fu'n arweinydd sosialaidd yng ngwleidyddiaeth Gwlad Belg ac yn ffigur blaenllaw yn y mudiad i uno Ewrop wedi'r Ail Ryfel Byd. Gwasanaethodd yn Brif Weinidog Gwlad Belg teirgwaith (1938–39, 1946, 1947–49) ac yn Weinidog Tramor Gwlad Belg pedair gwaith (1936–38, 1945–47, 1954–57, 1961–66). Roedd yn Llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o 1946 i 1947, yn Llywydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop o 1949 i 1951, ac yn Ysgrifennydd Cyffredinol NATO o 1957 i 1961.

Paul-Henri Spaak
Paul-Henri Spaak yn 1957.
GanwydPaul Henri Charles Spaak Edit this on Wikidata
25 Ionawr 1899 Edit this on Wikidata
Schaerbeek Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 1972 Edit this on Wikidata
Braine-l'Alleud, Dinas Brwsel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, chwaraewr tenis Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Gwlad Belg, Prif Weinidog Gwlad Belg, Prif Weinidog Gwlad Belg, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, member of the Chamber of Representatives of Belgium, President of the United Nations General Assembly, llysgennad, president of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, member of the Chamber of Representatives of Belgium, Minister of Development Cooperation, Minister of Mobility, Minister of Mobility, Belgian Minister of Foreign Trade, Mayor of Saint-Gilles - Sint-Gillis Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolBelgian Socialist Party, Socialist Party Edit this on Wikidata
TadPaul Spaak Edit this on Wikidata
MamMarie Janson Edit this on Wikidata
PlantAntoinette Spaak, Fernand Spaak Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Siarlymaen, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Medal of Freedom, Uwch Groes Urdd y Goron, Uwch Cordon Urdd Leopold, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Uwch Groes Urdd Crist (Portiwgal), Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonGwlad Belg Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg (1899–1931) golygu

Ganwyd Paul Henri Charles Spaak ar 25 Ionawr 1899 yn Schaerbeek, ger Brwsel, yn fab i'r bardd a dramodydd Paul Spaak. Astudiodd gyfreitheg ym Mhrifysgol Brwsel a derbyniodd ei radd yn 1921.[1] Gweithiodd yn gyfreithiwr o 1921 i 1931.[2]

Gyrfa wleidyddol hyd ddiwedd y rhyfel (1932–44) golygu

 
Y Gweinidog Tramor Spaak yn ei het silc, yn 1937.

Cychwynnodd ar ei yrfa wleidyddol yn 1932 pryd etholwyd i Siambr y Dirprwyon yn aelod o Blaid Lafur Gwlad Belg. Gwasanaethodd yn weinidog tramor o 1936 i 1938 ac yn brif weinidog o 1938 i 1939, y sosialydd cyntaf i arwain llywodraeth Gwlad Belg. Er iddo ennill cydsyniad y Ffrancod a'r Prydeinwyr i lunio polisi tramor annibynnol i'w wlad, methiant a fu ei ymdrechion i sicrhau niwtraliaeth Gwlad Belg yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi i Wlad Belg ildio i'r Almaen Natsïaidd ar ddiwedd yr Ymgyrch Deunaw Niwrnod ym Mai 1940, aeth Spaak i Baris ac yna Llundain yn weinidog tramor yn llywodraeth alltud Gwlad Belg o 1940 i 1944.[2]

Gyrfa wleidyddol wedi'r rhyfel (1945–66) golygu

Wedi i'r Cynghreiriaid ryddhau Gwlad Belg yn 1944, dychwelodd Spaak i'w famwlad. Gwasanaethodd yn weinidog tramor Gwlad Belg o 1945 i 1947, ac yn brif weinidog ar lywodraeth glymblaid y Sosialwyr a'r Cristnogion Cymdeithasol o Fawrth 1947 i Awst 1949.[3] Yn y cyfnod hwnnw cyflwynwyd yr etholfraint i fenywod yng Ngwlad Belg a chafodd y banc cenedlaethol ei wladoli.[2]

Wedi'r Ail Ryfel Byd, daeth Spaak yn ffigur blaenllaw mewn ymdrechion y Cynghreiriaid gorllewinol i sefydlu cyfundrefn ryngwladol newydd ar sail cyd-ddiogelwch. Cynorthwyodd wrth fraslunio Siarter y Cenhedloedd Unedig, a gwasanaethodd yn gadeirydd cyntaf Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 1946. Ar 28 Medi 1948 traddododd ei araith enwog i'r Cenhedloedd Unedig yn achwyn ar bolisïau'r Undeb Sofietaidd ac yn mynegi pryderon gwledydd y Gorllewin ar ddechrau'r Rhyfel Oer.[1]

Ymgyrchodd Spaak dros sefydlu undeb tollau Benelwcs – Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, a Lwcsembwrg – ers blynyddoedd y rhyfel, a chyflawnwyd y gamp honno yn 1948. Yn Awst 1949 daeth yn llywydd Cyngor Ewrop, ac ymddiswyddodd yn 1951 dros ddiffyg cefnogaeth i'r sefydliad gan lywodraethau ei aelodau. Bu hefyd yn chwarae ran flaenllaw wrth greu Cymuned Glo a Dur Ewrop, a gwasanaethodd yn llywydd ar gynulliad cyffredinol y sefydliad hwnnw o 1952 i 1954. Ceisiodd hefyd ffurfio Cymuned Amddiffyn Ewrop cyn i Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc atal yr ymdrech honno yn 1954.[1] Gwasanaethodd yn weinidog tramor eto o Ebrill 1954 i Fai 1957.[3] Penodwyd Spaak gan Gyngor Messina yn 1955 i arwain pwyllgor i ymchwilio i bosibilrwydd marchnad gyffredin yn Ewrop, ac o ganlyniad i'w adroddiad crewyd Cymuned Economaidd Ewrop a Cymuned Ynni Niwclear Ewrop gan Gytundebau Rhufain yn 1957.[1]

Dewiswyd Spaak yn ail Ysgrifennydd Cyffredinol NATO yn Rhagfyr 1956, gan olynu'r Cadfridog Hastings Ismay, Barwn 1af Ismay, a chychwynnodd yn y swydd ym Mai 1957. Wrth iddo gymryd y llyw, wynebai NATO ymraniadau rhwng ei aelod-wladwriaethau ynghylch argyfwng Suez. Gweithiodd Spaak i drawsnewid NATO o fod yn gynghrair milwrol yn unig i fod yn gyfundrefn wleidyddol bwysig yn y Rhyfel Oer, ac yn ganolfan i'w aelodau gydlynu eu polisïau tramor a chyfathrebu'n ddiplomyddol â'r bloc Dwyreiniol. Wedi i Charles de Gaulle ddychwelyd yn Arlywydd Ffrainc ym Mehefin 1958, bu'n hyrwyddo polisïau Gaulaidd a oedd yn rhwystro effeithioldeb milwrol NATO. Penderfynodd Spaak roi'r gorau i'r swydd yn Ionawr 1961.[1]

 
Cyfarfod yn yr Oval Office ar 20 Tachwedd 1961.
O'r chwith i'r dde: Y Barwn Robert Rothschild, Pennaeth ar Gabinet Gwlad Belg; Spaak, Gweinidog Tramor; John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau; a Louis Scheyven, llysgennad Gwlad Belg i'r Unol Daleithiau.

Gwasanaethodd Spaak yn ddirprwy brif weinidog (1961–65), gweinidog materion Affricanaidd, a gweinidog tramor Gwlad Belg (1961–66) yn llywodraeth glymblaid y Prif Weinidog Théo Lefevre. Ymddiswyddodd Spaak o wleidyddiaeth Gwlad Belg ym Mawrth 1966 o ganlyniad i anghytundeb yn y Blaid Sosialaidd dros ail-leoli pencadlys NATO i Frwsel.[1]

Diwedd ei oes (1967–72) golygu

Yn y cyfnod 1967–72, arweiniodd Spaak grŵp arbennig yn NATO gyda'r nod o wella cysylltiadau rhwng aelod-wladwriaethau'r cynghrair. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Combats inachevés, yn 1969. Bu farw ar 31 Gorffennaf 1972 yn 73 oed ym Mrwsel.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Christian Nuenlist, "Spaak, Henri-Pail" yn Cold War: A Student Encyclopedia, golygwyd gan Spencer C. Tucker (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2008), tt. 1908–10.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Paul-Henri Spaak. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2019.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) "Paul Henri Spaak" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 28 Medi 2019.

Darllen pellach golygu

  • Michel Dumoulin, Spaak (Brwsel: Racine, 1999).
  • J. H. Huizinga, Mr Europe: A Political Biography of Paul Henri Spaak (1961).