Paul Robeson

actor, canwr ac actifydd gwleidyddol (1898-1976)

Canwr ac actor ffilm a theatr Unol Daleithiau oedd Paul Leroy Robeson (9 Ebrill 189823 Ionawr 1976).

Paul Robeson
Ganwyd9 Ebrill 1898 Edit this on Wikidata
Princeton, New Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1976 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records, Philips Records, EMI Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Rutgers University–New Brunswick
  • Ysgol y Gyfraith Columbia
  • SOAS, Prifysgol Llundain
  • Somerville High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cyfreithiwr, ysgrifennwr, cerddor, chwaraewr pêl-fasged, chwaraewr pêl-droed Americanaidd, actor ffilm, actor llwyfan, gwleidydd, actor, cerddolegydd Edit this on Wikidata
Math o laisbas-bariton Edit this on Wikidata
Taldra75 modfedd Edit this on Wikidata
Pwysau219 pwys Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolProgressive Party Edit this on Wikidata
MudiadDadeni Harlem Edit this on Wikidata
TadWilliam Drew Robeson I Edit this on Wikidata
MamMaria Louisa Bustill Edit this on Wikidata
PriodEslanda Goode Robeson Edit this on Wikidata
PartnerHelen V. Rosen, Peggy Ashcroft Edit this on Wikidata
PlantPaul Robeson, Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Spingarn, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Neuadd Enwogion New Jersey, Gwobr Ryngwladol Stalin "Ar gyfer Cryfhau Heddwch Ymhlith y Gwledydd", Black Filmmakers Hall of Fame, Gwobr Paul Robeson, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Donaldson Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auAkron Pros Edit this on Wikidata
Safleend Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Plentyndod golygu

Ganwyd yn Princeton, New Jersey, yn fab i weinidog a chyn-gaethwas o'r enw William Robeson a'i wraig Maria.

Prifysgol golygu

Mynychodd Brifysgol Rutgers ac yna Ysgol y Gyfraith, Columbia lle derbyniodd radd LL.B.; chwaraeodd bêl-droed Americanaidd ar lefel uchel yn y ddau goleg.

Actio a chanu golygu

Dechreuodd ar ei yrfa fel actor llwyfan yn 1921 yn Efrog Newydd lle bu'n byw am saith mlynedd gyda'i wraig Essie. Yn ystod y cyfnod hwn, serenodd yn y ffilm The Proud Valley, a dorrodd dir newydd o ran dangos y dyn croenddu fel ag yr oedd, yn hytrach nag fel caricature. Daeth yn enwog fel canwr caneuon gospel hefyd.

Ei berthynas â Chymru golygu

 
Paul Robeson ar y llwyfan yn ystod y gymanfa ganu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1958.

Bu Paul Robeson yn gysylltiedig gyda glöwyr De Cymru am 40 mlynedd bron. Daeth ar eu traws yn gyntaf yn Llundain ym 1929 lle roedd nifer ohonynt yn ddiwaith ac yn canu am eu bara menyn. Fe ddilynodd eu protest a dechreuodd canu emyn-donau ysbrydol iddynt. Cyfranodd at eu hachos drwy Gronfa Gymorth y Glöwyr, ac ymwelodd â sawl tref a chwm yn Ne Cymru gan gynnwys Castell-nedd, Aberdâr, a Phont-y-clun.

Roedd Robeson yn perfformio mewn cyngerdd yng Nghaernarfon ym 1934 pan ddaeth newyddion trychineb Glofa Gresffordd. Rhodd ei dâl o'i berfformiad i'r gronfa ar gyfer teuluoedd y meirw. Ffilmiwyd The Proud Valley ym Mhont-y-pridd a Sanders of the River yn Tiger Bay, Caerdydd. Dywedodd Robeson, "it's from the miners in Wales I first understood the struggle of Negro and white together".

Yn eisteddfod y glöwyr ym Mhorthcawl, 1957, perfformiodd Robeson drwy ganu ar y ffôn o Efrog Newydd, ac ymunodd â Chôr Meibion Treorci i ganu "Hen Wlad fy Nhadau". Yn 1958 canodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958, gydag Aneurin Bevan yn ei gyflwyno. Gofynnwyd iddo os oedd am gael rodd i gofio'r eisteddfod, a gofynnodd Paul am lyfr emynau Cymraeg.

Hawliau dynol golygu

Cefnogodd y gweithiwr a mynegodd ei farn ynglŷn â Rhyfel Cartref Sbaen.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cefnogodd ei wlad, a chanodd a pherfformiodd i'r milwyr ac fel Othello yn Broadway. Er hyn, ar ddiwedd y rhyfel rhoddwyd ef ar restr o bobl pro-Sofiet gan yr FBI. Brwydrai dros hawliau'r duon a chymerwyd ei basbort oddi wrtho gan Lywodraeth UDA oherwydd ei ddaliadau Comiwnyddol ac o'r herwydd lleihaodd ei incwm yn fawr.

Diwedd ei oes golygu

Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Philadelphia.

Gweithiau golygu

Ffilmiau golygu

Llyfrau golygu

  • Here I Stand (1958). Hunangofiant.

Gwobrau golygu

  • Gwobr Heddwch Stalin (1952)

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu