Paul Turner

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yng Nghernyw yn 1945

Cyfarwyddwr ffilmiau a Chymro o dras Cernywaidd oedd Paul Turner (30 Rhagfyr 19451 Tachwedd 2019).[1][2] Cyfarwyddodd y ffilm Hedd Wyn, ffilm a gafodd ei henwebu am Oscar.

Paul Turner
Ganwyd30 Rhagfyr 1945 Edit this on Wikidata
Cernyw Edit this on Wikidata
Bu farw1 Tachwedd 2019 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHedd Wyn Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Turner yng Nghernyw. Ar ôl cyfnod o wneud astudiaethau ffilm, gweithiodd fel dyn camera a thorrwr ffilm. O 1971 tan 1982, gweithiodd fel golygydd rhaglenni i'r BBC. Dysgodd Gymraeg yn ystod y cyfnod yma. Fe weithiodd ar raglenni fel cyfres ddrama John Hefin, The Life and Times of David Lloyd George (1981). Yn yr un flwyddyn cynhyrchodd ei waith annibynnol cyntaf sef Trisgel, ffilm yn ôl David Berry sydd yn "ramant uchelgeisiol, di-ddeialog sy'n drwch o draddodiad a mytholeg".

Sefydlodd y cwmni cynhyrchu Teliesyn ar y cyd gyda Colin Thomas. Yn 1982/3 enillodd y cwmni newydd gomisiwn am drama-ddogfen gan S4C o'r enw Chwedlau Serch yn ogystal â chyfres Saesneg a Chymraeg gefn-wrth-gefn i'r BBC o’r enw Arswyd y Byd / Tales From Wales.

Yn 1984, cyfarwyddodd Turner ddrama sengl awr o hyd ar gyfer S4C o’r enw Wil Six (drama yn adrodd atgofion dyn o'i amser yn fachgen ifanc mewn ysgol wledig), yn ogystal â'r drasiedi lesbiaidd Tra Bo Dwy a'r drama deledu Dihirod Dyfed.

Cyfarwyddodd y ffilm Hedd Wyn yn 1992, y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Wobr yr Academi am y Ffilm Iaith Dramor orau. Aeth ymlaen i ennill llu o wobrau rhyngwladol eraill gan ddod â chlod a bri i sinema Cymraeg.

Aeth ymlaen i gyfarwyddo tair ffilm hyd llawn arall gyda'i gwmni cynhyrchu Pendefig - Cwm Hyfryd (1993), Dial (1995) a Porc Pei (1998) - ffilm a gafodd ei throi mewn i gyfres ddrama lwyddiannus ar S4C.[3]

Bywyd personol golygu

Ei ail wraig oedd yr actores o Gymraes Sue Roderick.

Bu farw yn ei gartref ar fore 1 Tachwedd 2019. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Caerdydd a Morgannwg ar 18 Tachwedd wedi ei ddilyn gyda dathliad o'i fywyd yn y Manor House, Penarth. [4]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr cwmni Pendefig. Adalwyd ar 25 Chwefror 2016.
  2. Teyrngedau i’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr, Paul Turner , Golwg360, 3 Tachwedd 2019.
  3.  Porth - Paul Turner (25 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 25 Chwefror 2016.
  4.  Cyhoeddiad marwolaeth. Western Mail (12 Tachwedd 2019). Adalwyd ar 15 Tachwedd 2019.

Dolenni allanol golygu