Pedryn drycin

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Pedryn Drycin)
Pedryn Drycin
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Procellariiformes
Teulu: Hydrobatidae
Genws: Hydrobates
Boie, 1822
Rhywogaeth: H. pelagicus
Enw deuenwol
Hydrobates pelagicus
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Pedryn Drycin (Hydrobates pelagicus) yn aelod o deulu'r Hydrobatidae, y pedrynnod. Y rhwogaeth yma yw'r unig aelod o'r genus Hydrobates.

Mae'n nythu ar ynysoedd yn y rhan gogleddol o Fôr Iwerydd ac ychydig yn rhan orllewinol Môr y Canoldir, fel rheol gannodd neu filoedd o adar gyda'i gilydd. Ar Ynysoedd Faroe y ceir y nifer mwyaf, gyda'r nythfa fwyaf ar ynys Nólsoy. Mae hefyd nifer fawr yn nythu o gwmpas gorllewin Iwerddon a gogledd-orllewin Yr Alban. Mae'n nythu mewn tyllau yn y ddaear neu agen mewn craig, ac yn dodwy un ŵy yn unig.

Dim ond yn y nos y mae'n dod at y nyth, er mwyn osgoi gwylanod ac adar ysglyfaethus. Mae'n aderyn bychan, tebyg o ran maint i Wennol y Bondo ac yn eithaf tebyg o ran ymddangosiad hefyd, gyda plu du a darn mawr gwyn uwchben y gynffon. Mae yn 15–16 cm o hyd a 38–42 cm ar draws yr adenydd. Ei brif fwyd yw plancton sy'n cael ei bigo oddi ar wyneb y môr.

Caiff yr enw "Pedryn" ar ôl Sant Pedr, gan ei fod yn edrych fel petai yn cerdded ar y môr. Gall y rhan arall o'r enw, "drycin", gyfeirio at y ffaith mai dim ond mewn tywydd garw y mae i'w weld o'r tir fel rheol, neu gall gyfeirio at ofergoel ymysg llongwyr fod yr aderyn yn medru achosi stormydd.

Mae yn nythu ar nifer o ynysoedd o gwmpas arfordir Cymru. Ar Ynys Sgogwm y mae'r nifer mwyaf, tua 3,000 - 4,000 o barau.

Hydrobates pelagicus
Pedryn Drycin ar stamp o'r Ynysoedd Faroe.