Pen-hŵ

pentref yng Nghasnewydd

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Casnewydd yw Pen-hŵ (Saesneg: Penhow). Saif ar ffîn ddwyreiniol sir Casnewydd. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2011 yn 744.

Pen-hŵ
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6151°N 2.835°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000826 Edit this on Wikidata
Map

Heblaw pentref bychan Pen-hŵ ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref mwy Parc Seymour. Adeilad mwyad adnabyddus y gymuned yw Castell Pen-hŵ, a adeiladwyd gan Syr Roger de St Maur, un o'r marchogion oedd yn gysylltiedig ag arglwyddiaeth Striguil a Chastell Cas-gwent. Mae cofnod ei fod ym Mhen-hŵ erbyn 1129. Yn ddiweddarach, newidiodd y teulu eu henw i Seymour.

Y castell a'r eglwys oddeutu 1800.

Ym Mhen-hŵ y cofnodwyd y dymheredd uchaf i'w chofnodi hyd yn hyn yng Nghymru, 34.2 °C (93.5 °F) ar 19 Gorffennaf 2006. Ymwelodd George Borrow a'r pentref yn 1854; yr adeg honno roedd llawer o'r trigolion yn uniaith Gymraeg. Mae Coedydd Pen-hŵ yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Tarddiad yr enw golygu

Mae dau bosibilrwydd; yn gyntaf mae'n bosibl i'r gair fod wedi dod o'r Hen Norwyeg, 'Haugr', sy'n golygu bryn. Neu fe all fod wedi tarddu o'r Hen Saesneg 'crib' neu 'gopa'. Fe'i cofnodwyd yn gytaf yn 1130 fel 'Penhou' ac ymddangosodd y sillafiad Cymraeg 'Pen Hw' tua 1566.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu