Pen yr Helgi Du

mynydd (832.6m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Pen yr Helgi Du.

Pen yr Helgi Du
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr833 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1482°N 3.9483°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6978163048 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd84.7 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd Llywelyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad golygu

Saif Pen yr Helgi Du yn sir Conwy, ar y grib sy'n ymestyn tua'r de-ddwyrain oddi wrth brif grib y Carneddau, gan gychwyn ar ochr ddwyreiniol Carnedd Llywelyn ac arwain dros gopa Pen yr Helgi Du a gorffen gyda Pen Llithrig y Wrach uwchben Llyn Cowlyd.

 
Y Glyderau o Ben yr Helgi Du

Caiff y copa ei wahanu oddi wrth Garnedd Llywelyn gan Fwlch Eryl Farchog, gyda chlogwyni Craig yr Ysfa islaw. I'r gorllewin o'r copa mae Ffynnon Llugwy, ac ar yr ochr ddwyreiniol mae Cwm Eigiau. I'r de-ddwyrain mae Bwlch y Tri Marchog yn ei wahanu oddi wrth gopa Pen Llithrig y Wrach.

Llwybrau golygu

Gellir ei ddringo trwy ddilyn y ffordd drol i Ffynnon Llugwy o'r briffordd A5 rhwng Gwern Gôf Isaf a Helyg, neu ar hyd y grib o Garnedd Llywelyn neu Ben Llithrig y Wrach.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu