Penrhyn Gobaith Da

Penrhyn mwyaf enwog De Affrica yw Penrhyn Gobaith Da. Fe'i lleolir ger Cape Town ac fel arfer mae pobl yn meddwl ei bod hi'n ffin rhwng Môr Iwerydd a Cefnfor India, ond dydy hynny ddim yn wyr am fod Penrhyn Agulhas yn fwy deheuol na Penrhyn Gobaith Da.

Penrhyn Gobaith Da
Mathpentir, penrhyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolTable Mountain National Park Edit this on Wikidata
GwladDe Affrica Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.3581°S 18.4719°E Edit this on Wikidata
Map
Map o Benrhyn Gobaith Da (tua 1888)
Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).

Hanes golygu

Y morwr Ewropeaidd cyntaf a aeth o gwmpas y penrhyn hwn oedd Bartolomeu Dias, morwr o Bortiwgal, a aeth o gwmpas Penrhyn Gobaith Da yn 1488. Oherwydd y tywydd stormus ar y pryd rhoddodd Dias yr enw "Penrhyn Tymhestloedd" (Cabo das Tormentas) arno, ond newidiodd Ioan II o Bortiwgal yr enw i "Benrhyn Gobaith Da" (Cabo da Boa Esperança), am iddo obeithio y byddai hynny'n fordd newydd i'r dwyrain.

Ar 6 Ebrill, 1652 cododd Jan van Riebeeck, masnachwr o'r Iseldiroedd, wersyll gyflenwi i'r Cwmni Dwyrain India Iseldiraidd. Datblygodd y wersyll hon i fod yn Cape Town. Ar 31 Rhagfyr, 1687 cychwynnodd grŵp o Hiwgenotiaid o Frainc i'r Penrhyn Gobaith da er mwyn osgoi erledigaeth crefyddol.

Ar 19 Ionawr, 1806 cipiodd Prydain Fawr Benrhyn Gobaith Da. O ganlyniad i gytundeb rhwng Prydain a'r Iseldiroedd ym 1814 daeth ardal y penrhyn yn wladfa Brydeinig.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.