Pentre Ifan

cromlech Geltaidd ger Nanhyfer, Sir Benfro

Pentre Ifan yw cromlech fwyaf Cymru. Saif yng ngogledd Sir Benfro, rhyw 2 km o bentref Nanhyfer a 17 km o Aberteifi.

Pentre Ifan
Mathcromlech Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
LleoliadNanhyfer Edit this on Wikidata
SirNanhyfer, Sir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.999°N 4.77°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcarreg Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwPE008 Edit this on Wikidata

Mae'r gromlech, sydd yng ngofal Cadw, yn dyddio o tua 3500 CC., ac yn wreiddiol roedd wedi ei gorchuddio gan domen o gerrig tua 36 m o hyd i ffurfio siambr gladdu. Mae'r maen capan yn 5.1 m o hyd, ac yn pwyso tua in 16 tunnell.

Pentre Ifan
Llun o ongl wahanol

Mae amlinelliad yr henebyn, sydd wedi'i gloddio gan archaeolegwyr, yn dangos fod ei ben blaen ar ffurf cilgant gyda phorth uchel a bod y domen o gerrig yn culhau yn y cefn. Mae hyn yn siap anghyffredin yng Nghymru, ond ceir siambrau claddu cyffelyb yn ne-orllewin yr Alban. Mae'r cyfan yn gorwedd ar echel ogledd - de.

Darganfuwyd olion tyllau rheolaidd ar ei ymyl a rhesi o gerrig bychain a oedd efallai o arwyddocâd defodol fel rhan o gwlt y meirw.

Cyfeiriadau golygu

  • Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain, 1978)
 
Adluniad o'r siambr gladdu wreiddiol.