Peredur Lynch

bardd, golygydd a phrifathro prifysgol

Awdur Cymraeg ac athro ym Mhrifysgol Bangor ydy Peredur Lynch (ganwyd 1963). Mae'n frodor o Garrog, Sir Feirionnydd.[1] Yn 1979 cipiodd gadair Eisteddfod yr Urdd ym Maesteg gydag awdl – y bardd ieuengaf i wneud hynny erioed, ag yntau'n ddim ond 16 mlwydd oed. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor cyn dod yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth rhwng 1985 a 1990. Ar ôl hynny, bu'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.[2] Ym 1995, dychwelodd i Brifysgol Bangor a chafodd ei ddyrchafu'n Athro'r Adran yn 2005. Ef hefyd oedd Pennaeth Adran y Gymraeg rhwng 2003 a 2006.

Peredur Lynch
Ganwyd13 Ionawr 1963 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, athro cadeiriol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, arweinydd milwrol Edit this on Wikidata

Mae'n arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion.

Llyfrau golygu

Dolenni allanol golygu

Ffynonellau golygu

  1. Yr Athro Peredur I. Lynch BA PhD[dolen marw]
  2. Yr Athro Peredur I. Lynch BA PhD[dolen marw] Gwefan Prifysgol Bangor. Adalwyd ar 16-10-2010
  3. "Ynglŷn â'r golygyddion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-20. Cyrchwyd 2008-05-21.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.