Publius Helvius Pertinax (1 Awst 12628 Mawrth 193) oedd Ymerawdwr Rhufain o 1 Ionawr 193 hyd ei farwolaeth.

Pertinax
Ganwyd1 Awst 126 Edit this on Wikidata
Alba Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 193 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol, milwr Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praefectus urbi, proconsul, llywodraethwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadHelvius Successus Edit this on Wikidata
MamUnknown Edit this on Wikidata
PriodFlavia Titiana Edit this on Wikidata
PartnerAnnia Cornificia Faustina Minor Edit this on Wikidata
PlantPertinax Caesar, Helvia Edit this on Wikidata

Dechreuodd ei yrfa fel athro gramadeg, ond yn ddiweddarach penderfynodd chwilio am yrfa oedd yn talu'n well a daeth yn swyddog yn y fyddin Rufeinig. Daeth i amlygrwydd yn ystod y rhyfel yn erbyn y Parthiaid ac yn ddiweddarach ym Mhrydain, lle bu'n dribiwn militariadd lleng VI Victrix, ar Afon Donaw ac yn Dacia. Dan deyrnasiad Marcus Aurelius amharwyd ar ei yrfa gan gynllwynion yn y palas ymerodrol, ond daeth i amlygrwydd eto pan alwyd ef i gynorthwyo mewn rhyfel yn erbyn y Germaniaid. Cyn 185 yr oedd eisoes wedi bod yn rhaglaw taleithiau Moesia (uchaf ac isaf), Dacia, Syria a Britannia.

Yn y 180au bu'n delio a gwrthryfel ymhlith milwyr Rhufain ym Mhrydain. Anafwyd ef yn ddifrifol yn y broses, ond ar ôl gwella cosbodd y gwrthryfelwyr yn drwm. Bu'n broconswl Affrica (188-189) ac yn gonswl ar y cyd a'r ymerawdwr. Pan lofruddiwyd Commodus, cyhoeddwyd Pertinax fel ymerawdwr ar 31 Rhagfyr 192, ond dim ond 86 diwrnod oedd hyd ei deyrnasiad. Dywedir fod milwyr Gard y Praetoriwm yn disgwyl rhoddion ariannol pan ddaeth Pertinax yn ymerawdwr, a phan wrthodwyd hwy troes y milwyr yn ei erbyn. Llofruddiwyd ef gan aelodau o Gard y Praetoriwm a dilynwyd ef gan Septimius Severus.

Rhagflaenydd:
Commodus
Ymerawdwr Rhufain
1 Ionawr28 Mawrth 193
Olynydd:
Didius Julianus
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato