Dinas yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Peterborough[1] (Cymraeg: Trebedr).[2] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn awdurdod unedol Dinas Peterborough. Saif ar Afon Nene, 119 km / 74 o filltiroedd i'r gogledd o Lundain.

Trebedr
Mathdinas, dinas fawr, ardal ddi-blwyf, tref newydd Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Peterborough
Poblogaeth194,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1541 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Vinnytsia, Forlì, Viersen, Foggia, Alcalá de Henares, Ann Arbor, Michigan, Bourges Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaergrawnt
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd343 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Nene Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5725°N 0.2431°W Edit this on Wikidata
Cod OSTL185998 Edit this on Wikidata
Cod postPE Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Peterborough Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Peterborough boblogaeth o 161,707.[3]

Hanes golygu

Tan 1888 gweinyddwyd Peterborough gan swyddogion y ddinas (Marcwis Caerwysg, ceidwad y rholiau, ynadon ac uchel feili a benodwyd gan ddeon a chapidwl yr eglwys gadeiriol) yn annibynnol o Swydd Northampton. Yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1888, gwnaethpwyd y Soke of Peterborough yn sir weinyddol ar ei phen ei hun. Roedd yn sir fechan o ran poblogaeth, felly fe'i hunwyd â Swydd Huntingdon yn 1965 i greu sir newydd Huntingdon and Peterborough. O 1974 tan 1998, pan grewyd yr awdurdod unedol Dinas Peterborough, roedd y ddinas yn cael ei gweinyddu fel rhan o Swydd Gaergrawnt, ac mae'n dal yn rhan o sir seremoniol Swydd Gaergrawnt.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Pobl o Beterborough golygu

Gefeilldrefi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 6 Gorffennaf 2020
  2. Geiriadur yr Academi, Peterborough
  3. City Population; adalwyd 12 Gorffennaf 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaergrawnt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato