Petula Clark

actores a chyfansoddwr a aned yn 1932

Cantores, actores a chyfansoddwraig Seisnig yw Petula Clark CBE (ganed Sally Olwen Clark, 15 Tachwedd 1932), sydd wedi bod yn perfformio ers y 1940au.

Petula Clark
FfugenwPetula Clark Edit this on Wikidata
GanwydSally Clark Edit this on Wikidata
15 Tachwedd 1932 Edit this on Wikidata
Ewell Edit this on Wikidata
Label recordioWarner Bros. Records, Columbia Records, Decca Records, EMI, Polygon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor plentyn, canwr, cyfansoddwr, actor llwyfan, actor ffilm, artist recordio Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDowntown Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
TadLeslie Clark Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Commandeur des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.petulaclark.net/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Clark i Doris (née Phillips) a Leslie Noah Clark yn Ewell, Surrey. Roedd ei rhieni yn nyrsys yn Ysbyty Long Grove. Roedd mam Clark o dras Cymreig a'i thad yn Sais. Dyfeisiwyd yr enw llwyfan "Petula" gan ei thad, gan jocio ei fod yn gyfuniad o ddau cyn gariad iddo, Pet ac Ulla.[1]

Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd symudodd Clark i fyw gyda'i chwaer yn nhŷ eu mamgu a dadcu yn Abercannaid, ger Merthyr Tydfil,[angen ffynhonnell], tŷ bychan o gerrig heb drydan na cyflenwad dŵr, gyda tŷ bach ar waelod yr ardd. Roedd ei thadcu yn löwr.[2] Ei perfformiad cyntaf o flaen cynulleidfa fyw oedd yn y Colliers Arms yn Abercannaid.[3] Roedd hefyd yn cofio byw tu allan i Lundain yn ystod y Blitz gan wylio yr ysgarmes awyr a rhedeg i loches rhag bomio, gyda'i chwaer.

Gyrfa golygu

Yn ddiweddarach, pan yn 8 mlwydd oed, ymunodd a phlant eraill i recordio negeseuon i'r BBC ei ddarlledu i aelodau o'r teulu yn y lluoedd argfog. Recordiwyd y digwyddiad yn Theatr y Criterion, theatr tanddaearol oedd yn ddiogel. Pan ganodd seiren cyrch awyr, roedd rhai o'r plant wedi ofni a daeth galwad am rywun i ddod ymlaen i ganu iddynt i'w tawelu. Gwirfoddolodd Petula, a roedd y bobl yn yr stafell rheoli yn hoffi ei llais cymaint, fe'i recordiwyd hi yn canu. Ei chan oedd "Mighty Rose".[4]

Yn ystod y 1960au, daeth yn adnabyddus am ei chaneuon bywiog gan gynnwys "Downtown," "I Know a Place," "My Love," "Colour My World," "A Sign of the Times," a "Don't Sleep in the Subway". Gwerthodd dros 70 miliwn o recordiau'n fyd-eang, gan ei gwneud y gantores Brydeinig unigol mwyaf llwyddiannus erioed a chyfeirir ati yn y "Guinness Book of World Records".

Mae gan Clark y statws hefyd o'r gyrfa bop rhyngwladol mwyaf hirhoedlog allan o bob cantores benywaidd o Brydain - 55 mlynedd, o 1954 pan aeth "The Little Shoemaker" i 20 Uchaf y DU, i 2009 pan aeth ei CD "Les Indispensables" i 10 Uchaf y siart yng Ngwlad Belg.

Ffilmyddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Petula facts". walesonline. 25 January 2007. Cyrchwyd 8 May 2020. Unknown parameter |lng= ignored (help)
  2. Evans, Busola (2013-09-06). "Petula Clark: My family values | Life and style". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
  3. "Petula Clark goes downtown" (yn Saesneg). Wales Online. February 2007. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
  4. BBC documentary Dancing through the Blitz, 2015

Dolenni allanol golygu