Marcus Iulius Philippus (c.204249), sy'n fwy adnabyddus fel Philip yr Arab neu Philip I, oedd ymerawdwr Rhufain o 244 hyd 249.

Philip yr Arab
Ganwydc. 204 Edit this on Wikidata
Shahba Edit this on Wikidata
Bu farw249 Edit this on Wikidata
Verona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praetorian prefect Edit this on Wikidata
TadJulius Marinus Edit this on Wikidata
PriodMarcia Otacilia Severa Edit this on Wikidata
PlantPhilippus II Edit this on Wikidata

Dywed rhai ffynonellau fod Philip yn fab i sheic Bedouin. Yn ôl eraill ganed ef yn Shahba yn fab i Julio Marino, dinesydd Rhufeinig o darddiad bonheddig lleol. Priododd Rhilip a Marcia Octacilia Severa yn 238 a bu ganddynt un mab, Marcus Julius Severus Philipus, a ddaeth yn Philip II.

Ymunodd Philip a'r fyddin a dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn gadfridog dan yr ymerawdwr Gordian III. Ef oedd pennaeth y llengoedd yn nhalaith Mesopotamia. Daeth Gordian i'r dwyrain i ymgyrchu yn erbyn y Persiaid oedd yn bygwth Mesopotamia. Pan fu farw Timisetus, pennaeth Gard y Praetoriwm, tad-yng-nghyfraith Gordian a'i brif gynghorydd, penodwyd Philip yn bennaeth y Praetoriaid yn ei le. Ymddengys i Philip gynllwynio yn erbyn Gordian a'i lofruddio yn 243. Cyhoeddwyd Philip yn ymerawdwr gan y llengoedd, ac wedi cytuno telerau heddwch a Sapor I, brenin Persia, aeth i Rufain lle gwnaed ef yn ymerawdwr gan y Senedd. Cyhoeddodd ei fab Marcus Julius Severus Philipus fel Cesar.

Tua dechrau ei deyrnasiad bu ymosodiadau gan yr Almaenwyr ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd y Gothiaid ar Moesia (Bwlgaria heddiw) tros Afon Donaw. Erbyn 248 yr oeddynt wedi ei gyrru allan o Moesia, ond yr oedd y llengoedd yn anfodlon, efallai am nad oeddynt wedi derbyn tâl digonol am eu buddugoliaeth. Gwrthryfelasant, a chyhoeddi Tiberius Claudius Pacatianus yn ymeradwdwr. Gorchfygwyd y gwrthryfel, a phenododd Philip Decius yn rhaglaw ar y dalaith.

Yn Ebrill 248 dathlodd Philip fil-flwyddiant sefydlu dinas Rhufain gan Romulus gyda chwaraeon. Fodd bynnag yr oedd y milwyr ar ffin Afon Donaw yn fwyfwy anfodlon, ac yn nechrau 249 cyhoeddasant Decius yn ymerawdwr. Cychwynodd ef tua Rhufain gyda'i fyddin, ac mewn brwydr gerllaw Verona gorfchfygwyd byddin Philip ac fe'i lladdwyd. Pan gyrhaeddodd y newyddion i Rufain, llofruddiwyd ei fab.

Awgryma rhai haneswyr mai Philip oedd yr ymerawdwr cyntaf i fod yn Gristion. Ond nid oes unrhyw brawf o hyn, er iddo eu goddef.

Philip yr Arab
Rhagflaenydd:
Gordian III
Ymerawdwr Rhufain
244249
Olynydd:
Decius