Actor, cynhyrchydd ffilmiau ac amgylcheddwr Americanaidd-Gwyddelig yw Pierce Brendan Brosnan, OBE (ganwyd 16 Mai 1953). Mae ganddo ddinasyddiaeth Gwyddelig ac Americanaidd. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed er mwyn dechrau hyfforddi i fod yn ddarlunydd masnachol ond hyfforddodd yn y Ganolfan Ddrama yn Llundain am dair blynedd. Wedi cyfnod o actio ar lwyfan, daeth i amlygrwydd yn y gyfres deledu boblogaidd Remington Steele.

Pierce Brosnan
GanwydPierce Brendan Brosnan Edit this on Wikidata
16 Mai 1953 Edit this on Wikidata
Drogheda Edit this on Wikidata
Man preswylMalibu, Califfornia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gelf Saint Martin
  • Elliott School
  • Canolfan Ddrama Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cynhyrchydd ffilm, amgylcheddwr, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddulldrama fiction, cyffro, ffilm llawn cyffro Edit this on Wikidata
PriodCassandra Harris, Keely Shaye Smith Edit this on Wikidata
PlantChris Brosnan, Sean Brosnan, Charlotte Brosnan, Paris Brosnan Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Gwobr Saturn am Actor Gorau, Empire Award for Best Actor, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, European Film Academy Achievement in World Cinema Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Great Immigrants Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.piercebrosnan.com Edit this on Wikidata
llofnod

Chwaraeodd Brosnan ran yr asiant cudd James Bond yn GoldenEye, Tomorrow Never Dies, The World Is Not Enough a Die Another Day. Ef hefyd ddarparodd y llais a phryd a gwedd Bond yn y gêm fideo James Bond 007: Everything or Nothing. Ym 1996, sefydlodd gwmni cynhyrchu yn Los Angeles ar y cyd gyda Beau St.Clair, o'r enw Irish DreamTime. Roedd Brosnan yn briod â Cassandra Harris tan ei marwolaeth, ac mae ef bellach wedi ail-briodi Shaye Smith.

Rhagflaenydd:
Timothy Dalton
Actor James Bond
19952002
Olynydd:
Daniel Craig


Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.