Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Pikachu (Japaneg: ピカチュウ - Pikachū). Mae Pikachu yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo. Yn ddiweddar mae Pikachu wedi ddod yn eicon o ddiwylliant Japaneaidd a masgot swyddogol y fasnachfraint.

Pikachu

Cymeriad golygu

Daw'r enw Pikachu o'r geiriau Japaneg pikapika (sef gair dychmygol am hwm trydanol) a chū (gwich llygoden). Cafodd Pikachu ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon) a mae'n cael ei leisio yn yr anime gan Ikue Otani.

Ffisioleg golygu

Mae Pikachu (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon trydanol sydd yn edrych fel llygod bychain melyn gyda marciau brown ar eu cefnau ac eu cynffonau (sydd wedi'i siapio fel mellten). Mae ganddon nhw clustiau mawr pigog gyda blaenau'u clustiau'n ddu a chylchau coch ar eu bochau sydd yn storio trydan. Mae gan Pikachu y pŵer i reoli trydan a maen nhw'n defnyddio'r pŵer hyn wrth hela ac ymladd. Gall Pikachu hefyd ddefnyddio trydan i 'ailwefru' cyd Pikachu sydd yn sâl neu anafus.

Ymddygiad golygu

Fel arfer, mae Pikachu yn byw a theithio mewn diadellau. Os mae Pikachu yn pentyrru gormod o egni trydanol yn eu gyrff, bydd nhw'n datblygu symptomau agos i annwydau yn bodau dynol. Weithiau caiff Pikachu eu drin fel cnofilod, gan cnoi gwifrau, pyst teleffonau neu offer trydanol arall. Er gwaethaf hyn, mae Pikachu yn poblogaidd iawn fel anifeiliau anwes o fewn y byd Pokémon. Wrth dynnu ar cynffon Pikachu bu'r tynnwr yn derbyn sioc trydanol chwerw neu caiff ei frathu.

Cynefin golygu

Caiff Pikachu eu ffeindio yn coedwigoedd neu o gwmpas gorsafoedd pŵer. Mae Pikachu yn enedigol i'r ardal Kanto o fewn y byd Pokémon ond maen nhw wedi cael ei gyflwyno i ardaloedd gwahanol.

Deiet golygu

Mae Pikachu yn llysysyddion sydd yn chwilota am aeron. Yn lle dringo coed am eu fwyd, bydd Pikachu yn defnyddio siociau trydanol fach i rhyddhau'r aeron o'r coeden wrth rostio nhw a'r un pryd. Yn yr anime, mae Pikachu yn cael ei ddangos i hoffi saws tomato.

Effaith Diwyllianol golygu

Yn 2000 enillodd Pikachu 8fed safle ar restr gan Animax o'r cymeriadau anime gorau yn y byd, ac yn 2002 ymddangosodd Pikachu mewn rhestr gan TV Guide ar 'The 50 Greatest Cartoon Characters Of All Time' yn safle 15. Ers 2001 mae balŵn aer boeth enfawr o Pikachu wedi cymryd rhan mewn y Macy's Thanksgiving Day Parade yn Ninas Efrog Newydd. Yn 2008 wnaeth tîm o wyddonwyr o'r Osaka Bioscience Institute Foundation (大阪バイオサイエンス研究所) darganfod cemegyn newydd a gelwir yn Pikachurin.

Ieithoedd Gwahanol golygu