Gêm bêl sy'n cael ei chwarae yn bennaf yng Ngwlad y Basg yw Pilota neu Pilota Basgaidd (Basgeg: euskal pilota, Sbaeneg: pelota vasca. Gall gêm fod rhwng dau chwaraewr neu rhwng dau dîm. Maent yn taro'r bêl bob yn ail yn erbyn wal arbennig, a elwir yn "frontón". Ceir sawl math ar pilota, gyda maint y wal, y bêl a'r offeryn a ddefnyddir i daro'r bêl yn erbyn y wal yn amrywio. Mae pilota wedi lledaenu i wledydd eraill, megis Mecsico, yr Ariannin, Wrwgwái, Ciwba, Tsile a'r Unol Daleithiau.

Chwarae Pilota yn Elizondo (Navarra)

Ceir cofnodion am y gêm mewn testunau Ffrangeg o'r 13g. Cynhaliwyd Pencampwriaeth y byd ers 1952:

  • 1952 — Donostia: Ffrainc 8 medal aur, Sbaen 5, Ariannin 3, Mecsico 1
  • 1955 — Montevideo: Sbaen 5, Ariannin 3, Mecsico 2, Ffrainc 1, Wrwgwái 1
  • 1958 — Biarritz: Sbaen 5, Ffrainc 3, Ariannin 3, Mecsico 3
  • 1962 — Iruñea (Pamplona): Ariannin 4, Sbaen 3, Ffrainc 3, Mecsico 2
  • 1966 — Montevideo: Ffrainc 4, Ariannin 3, Sbaen 3, Mecsico 2, Wrwgwái 1
  • 1970 — Donostia: Sbaen 4, Ffrainc 3, Ariannin 2, Mecsico 2, Wrwgwái 1
  • 1974 — Montevideo: Ariannin 5, Ffrainc 4, Sbaen 2, Mecsico 1
  • 1978 — Biarritz: Sbaen 4, Ariannin 3, Ffrainc 2, Mecsico 2, Wrwgwái 1
  • 1982 — Dinas Mexico: Ffrainc 6, Ariannin 4, Sbaen 1, Mecsico 1
  • 1986 — Vitoria-Gasteiz: Ffrainc 5, Sbaen 3, Mecsico 2, Ariannin 2
  • 1990 — Ciwba: Sbaen 6, Mecsico 3, Ffrainc 2, Ariannin 2
  • 1994 — Saint-Jean-de-Luz: Ffrainc 5, Sbaen 4, Mecsico 3, Ariannin 2
  • 1998 — Dinas Mexico: Sbaen 5, Mecsico 3, Ariannin 3, Ffrainc 2, Ciwba 1
  • 2002 — Iruñea (Pamplona): Sbaen 4, Ffrainc 4, Mecsico 3, Ariannin 2, Ciwba 1
  • 2006 — Dinas Mexico: Mecsico 6, Sbaen 3, Ffrainc 3, Ariannin 2