Pilsen atal cenhedlu cyfunedig

Pilsen a gymerir i atal beichiogrwydd yw'r bilsen atal cenhedlu cyfunedig neu y bilsen. Mae'r bilsen yn cael ei llyncu trwy'r ceg, ac mae ynddi gymysgedd o oestrogen a phrogestogen, er mwyn atal ffrwythlondeb dros dro. Defnyddir dull atal cenhedlu o'r fath gan dros 100 miliwn o fenywod trwy'r byd. Mae defnydd o'r bilsen yn amrywio'n fawr o le i le: mae 24% o fenywod prydeinig rhwng 16 a 49 oed yn defnyddio'r bilsen cyfunedig neu'r mini-bilsen, o'i gymharu ag 1% yn Japan.

Sut mae'n gweithio golygu

Mae'r bilsen yn atal beichiogrwydd yn bennaf trwy atal ofwliad. Wrth i fenyw cymryd pilsen pob dydd yn y modd cywir, mae ofwliad yn cael ei atal mewn 98-99% o'i chylchredau. Mae anghofio cymryd ambell i bilsen yn cynyddu'r cyfradd ofwliad. Dangosodd un ymchwiliad fod anghofio cymryd dwy bilsen yn olynol yn arwain at ofwliad mewn 29% o gylchredoedd. (Mewn benywod nad ydynt yn cymryd y bilsen, mae oddeutu 25% o gylchredoedd ofwlol yn arwain at feichiogrwydd.)

Os digwydd i ofwliad ddigwydd er gwaetha'r bilsen, credir fod mecanweithiau eilaidd yn atal beichiogrwydd. Bosib fod rhain yn cynnwys trwchuso mwcws ceg y wain a newidiadau yn y tiwbiau Ffalopaidd, sy'n atal mudiad sberm.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: pilsen atal cenhedlu cyfunedig o'r Saesneg "combined oral contraceptive pill". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
  Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato