Plaid Gomiwnyddol Iwerddon

Plaid gomiwnyddol Wyddelig yw Plaid Gomiwnyddol Iwerddon (Gwyddeleg: Páirtí Cumannach na hÉireann, Saesneg: The Communist Party of Ireland, CPI), a sefydlwyd yn 1933. Plaid fechan ydyw, gyda'i phencadlys yn Nulyn. Mae'n weithgar yn y de a'r gogledd fel ei gilydd. Mae'n cyhoeddi dau bapur newydd, un yn Nulyn a'r llall ym Melffast.

Plaid Gomiwnyddol Iwerddon
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegcomiwnyddiaeth, Marcsiaeth–Leniniaeth, sosialaeth, Irish republicanism, Euroscepticism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3 Mehefin 1933, 1970 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganIrish Socialist Republican Party Edit this on Wikidata
RhagflaenyddCommunist Party of Northern Ireland, Irish Workers' Group, Revolutionary Workers' Groups Edit this on Wikidata
PencadlysDulyn Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://communistparty.ie Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dydy'r blaid erioed wedi cymryd rhan amlwg mewn etholiadau, ond er hynny mae wedi bod yn ddylanwadol ym mudiad yr undebau llafur Gwyddelig a bu'n weithgar yng Nghymdeithas Hawliau Sifil Gogledd Iwerddon (Northern Ireland Civil Rights Association). Mae gan y CPI siop lyfrau adnabyddus yn Nulyn, sef Connolly Books ac fe'i cefnogir gan fudiad ieuenctid y Connolly Youth Movement, ill dau wedi'u henwi ar ôl y sosialydd Gwyddelig James Connolly.

Dolenni allanol golygu