Cylchgrawn Cymreig a gyhoeddir pob chwarter yw Planet, "The Welsh Internationalist", sy'n ymdrin â'r celfyddydau, chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, o afbwynt Cymreig. Cyhoeddir barddoniaeth a straeon byrion ym mhob rhifyn o'r cylchgrawn.

Planet
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1970 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1970 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1970 Edit this on Wikidata
PencadlysAberystwyth Edit this on Wikidata
Clawr cylchgrawm Planet (rhif 232)

Hanes golygu

Detholiad o clawr Planet

Sefydlwyd Planet fel cylchgrawn a gyhoeddwyd pob yn ail mis, gan Ned Thomas, a fu hefyd yn olygydd cyntaf y cylchgrawn, a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Awst 1970. Dilynodd hyn benderfyniad ym 1967 i ddatganoli gweithrediad Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr yng Nghymru i Gyngor Celfyddydau Cymru. Dywedodd Thomas fod gan gyfarwyddwr llenyddiaeth cyngor y celfyddydau ar y pryd, Meic Stephens, weledigaeth o greu canolfan cyhoeddi yng Nghymru, nad oedd wedi bodoli gynt.[1]

Ar noswyl Refferendwm datganoli i Gymru, 1979, gan ragweld pleidlais "na", penderfynnodd Thomas i ddod a'r cylchgrawn i ben gan y credodd fod y bleidlais yn arwydd o fethiant ideoleg y cylchgrawn. Perswadwyd ef i ail-lawnsio'r cylchgrawn ym 1985, gyda ariannu gwell a chyflogwyd John Barnie fel cynorthwyydd llawn amser cyn iddo ddod yn olygydd ym 1990. Olynwyd Barnie gan ei wraig, Helle Michelsen, yn 2006. Dathlodd y cylchgrawn ei benblwydd yn 40 oed gyda chyhoeddiad ei 200fed rhifyn, cyn newid i ddod yn gylchgrawn chwarterol o dan arweiniaeth ei olygydd newydd, Jasmine Donahaye.[1] Yn 2012, cymerodd Emily Trahair y swydd o fod yn golygydd, gyda Dafydd Prys ap Morus yn Golygydd Cynhyrchu a Helen Pendry fel Golygydd Cynorthwyol. Gyda Helen a Dafydd yn ymadael, ymunodd Lowri Angharad Pearson yn 2015 fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol a Marchnata a Hywel Edwards yn 2017 fel Swyddog Cynhyrchu.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol o gartref Thomas a'i wraig Sarah Eskrine yn Llangeitho. Symudodd yn ddiweddarach i'r Hen Goleg yn Aberystwyth.[2]

Golygyddion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Planet magazine's 200th edition goes into orbit. BBC Mid Wales (11 Tachwedd 2010).
  2.  Llyfrgell Genedlaethol Cymru > Planet Papers. Archifau Cymru. Adalwyd ar 15 Mehefin 2011.

Dolenni allanol golygu

Chwiliwch am Planet
yn Wiciadur.