System etholiadol sydd yn ethol un enillydd trwy bleidleisio ffafriol yw'r bleidlais amgen (AV).[1] Mae pleidleiswyr yn dewis ymgeiswyr yn ôl y trefn maent yn eu ffafrio, yn hytrach na dewis un ymgeisydd yn unig fel y wneir yn system y cyntaf i'r felin. Os nad yw'r un ymgeisydd yn derbyn mwyafrif o bleidleisiau o ffafriaeth gyntaf, yna dileir yr ymgeisydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau o'r ras a dosbarthir ail bleidleisiau ar y papurau pleidleisio hynny i'r ymgeiswyr eraill. Ailadroddir y broses tan fod gan un ymgeisydd fwyafrif o bleidleisiau.

Nodiadau golygu

  1. O'r Saesneg: alternative vote.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.