Mae'r gair poltergeist (o'r Almaeneg poltern sy'n golygu i wneud sŵn a geist sy'n golygu "ysbryd", "enaid" neu "ymgorfforiad") yn dynodi ysbryd neu enaid dieflig sy'n amlygu ei hun drwy symud a dylanwadu ar wrthrychau eraill.

Damcaniaethau golygu

Yn hanesyddol mae sawl damcaniaeth posib wedi cael eu cyflwyno er mwyn ceisio esbonio'r ffenomenon poltergeist.

Achosir gan rymoedd ffisegol golygu

Ysbrydion sy'n gwneud sŵn ac yn symud gwrthrychau trwy'r awyr yw poltergeists. Dywed rhai gwyddonwyr fod pob gweithgarwch poltergeist nad oes modd profi mai twyll ydyw, yn cael ei achosi gan esboniad ffisegol megis trydan statig, meysydd electromagnetic, uwchseiniau ac îs-seiniau ac/neu aer wedi'i ïoneiddio. Mewn rhai achosion fel achos poltergeist Rosenheim, darganfu'r ffisegwr F. Karger o'r Max-Planck-Institut für Plasmaphysik a G. Zicha o Brifysgol Technegol München nad oedd yr elfennau hyn yn bresennol a honna cefnogwyr paraseicoleg na ddarganfu unrhyw dystiolaeth o dwyll. Roedd hyn er gwaethaf ymchwiliad manwl gan yr heddlu a'r CID er fod y troseddegwr Herbert Schäfer yn dyfynnu ditectif di-enw a wyliodd un asiant yn gwthio lamp pan nad oedd yn meddwl fod unrhyw un yn edrych. Fodd bynnag, os yw hyn yn wir neu beidio, arwyddodd yr heddlu ddatganiadau a gadarnhaodd eu bod wedi gweld y ffenomena. Anodd iawn oedd esbonio agweddau eraill o'r achos hefyd; ffoniwyd y gwasanaeth amser cannoedd o weithiau ar gyflymder a fyddai wedi bod yn amhosib gyda'r ffônau deialu mecanyddol o 1967. Dad-gysylltodd yr awdurdod lleol y swyddfa o'r brif gyflenwad a'i gysylltu i generadur penodol er mwyn ceisio sefydlogi'r llif. Fodd bynnag parhaodd yr ymchwyddiadau mewn cerrynt a foltedd er nad oedd unrhyw reswm posib am hyn yn ôl Zicha a Karger. Mae poltergeist yn edrych fel enaid. Mae ganddo gorff tryloyw ac nid oes llygaid ganddo. Cred rhai pobl eraill fod gan y ffenomen poltergeist achosion llawer mwy daearol, fel ceryntau awyr anghyffredin, cryniadau awyr fel gyda ymddyrchafu acwstig neu ddirgryniadau a achosir gan nentydd tanddaearol. Honnodd John Hutchinson iddo ail-greu effeithiau poltergeist yn ei labordy. Mae'n werth nodi hefyd fod y gwyddonydd David Turner yn awgrymu y gallai poltergeists a phêl o fellt fod yn ffenomena sy'n gysylltiedig â'i gilydd. Mae rhai gwyddonwyr yn mynd mor bell a galw poltergeists yn ffenomena ffug-seicig gan honni eu bod yn cael ei achosi gan effeithiau ffisegol anghyffredin.