Pontrobert

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bach yng nghymuned Llangynyw, Powys, Cymru, yw Pontrobert.[1][2] Saif yn ardal Maldwyn tua hanner ffordd rhwng Llanfair Caereinion i'r de a Llanfyllin.

Pontrobert
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangynyw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7037°N 3.323°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Enwir y pentref ar ôl yr hen bont ar afon Efyrnwy. Ceir cored ar yr afon ger y bont honno. Dwy filltir i'r de-ddwyrain o Bontrobert, i lawr y dyffryn, ceir Mathrafal, safle llys brenhinoedd Powys.

Rhed Llwybr Glyndŵr heibio i'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Y Felin, Pontrobert (1975)

Pobl o Bontrobert golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.