Pontygwaith, Merthyr Tudful

pentref ym Merthyr Tudful

Pentref yng nghymuned Treharris, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Pontygwaith. Saif gerllaw Afon Taf.

Pontygwaith
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.670133°N 3.330789°W Edit this on Wikidata
Cod OSST080976 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDawn Bowden (Llafur)
AS/auGerald Jones (Llafur)
Map
Peidiwch â chymysgu y pentref hwn â Pont-y-gwaith ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf.

Sefydlwyd gwaith haearn bychan yma gan Anthony Morley yn 1583. Adeiladwyd bythynnod ar ddechrau'r 19g i gartrefu gweithwyr Camlas Morgannwg. Ychydig o'r pentref gwreiddiol sy'n weddill bellach; dymchwelwyd y mwyafrif o adeiladau i wneud lle i'r A470 yn y 1980au.[1] Mae Llwybr Taf yn mynd heibio hen safle'r pentref.

Enwir y pentref ar ôl pont yn groesi Afon Taf yma. Y bont gerrig sy'n sefyll yno heddiw a ddisodlodd strwythur pren cynharach ym 1811.[2]

Y bont ym Mhontygwaith

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Pontygwaith"; Gwefan Old Merthyr Tydfil; adalwyd 14 Medi 2019
  2. "ST0897: Pont Y Gwaith"; Gwefan Geograph; adalwyd 14 Medi 2019
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-24.
  4. Gwefan Senedd y DU