Portmeirion

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng Ngwynedd, Cymru, yw Portmeirion ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Lleolir ym Meirionnydd, a roes iddo'i enw, ynghyd â'r rhagddodiad "Port" i gyfleu naws Port arall, sef Portofino yn Yr Eidal. Saif ar benrhyn Aber Iâ ar lannau Afon Dwyryd, ger Bae Tremadog. Mae'r fynedfa iddo hanner ffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog, ar yr A487.

Portmeirion
Portmeirion yn Rhagfyr 2022
Mathpentref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1925 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPenrhyndeudraeth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9131°N 4.0992°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH588370 Edit this on Wikidata
Cod postLL48 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Sefydlwydwyd ganClough Williams-Ellis Edit this on Wikidata

Roedd y pentref yn arbrawf ac yn ymgais i greu datblygu cynaladwy sy'n gydnaws a'i amgylchfyd o ran tirwedd a diwylliant. Mae yna dai a siopau, bwytai a gwestai yn y pentref, rai ohonyn nhw'n adeiladau gwreiddiol ac eraill wedi eu cynllunio gan y pensaer a'r cadwriaethwr Syr Clough Williams-Ellis a'i codi ganddo. Prynodd Williams-Ellis y safle ym 1925 a'i agor fel gwesty dros y Pasg 1926. Ei fwriad oedd dangos ei bod yn bosibl datblygu lle hardd heb ei ddinistrio, ac y gellid, o arddel disgyblaeth lem, ychwanegu at yr harddwch naturiol. Ar dir y gwesty gellir ymweld ag adfeilion Castell Deudraeth, a godwyd gan feibion Cynan ab Owain Gwynedd tua chanol y 12g.

Portmeirion

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Hanes golygu

 
Golygfa o ochr arall i'r aber

Rhwng 1926 a 1939 codwyd tua hanner y pentref gan gynnwys addasu'r Gwesty, codi bythynnod Neifion ac Angel, y twr clychau, ty'r llywodraeth, dolffin, y drindod, y siantri, llety'r foneddiges, llety'r prior, neuadd y dref, y twr gwylio—ac yna daeth seibiant tan 1954 oherwydd y rhyfel, deddfau cyfyngu ar adeiladu a'r tân yn ei garterf Plas Brondanw yn 1951. Wedi trwsio'i dy, aeth ati o 1954 i 1973 i orffen ei waith gydag adeiladau megis y gatws, colofnres bryse 1957, y gromen 1960, ty pont, ty clogwyn, uncorn, twr telfford, y bwâu, y sgwâr canol. Ym 1966 dewiswyd y lle fel cefndir i'r gyfres The Prisoner gyda Patrick McGoohan a ddaeth yn glasur cwlt teledu'r 1960au. Mae'r pentref tua 6 milltir o Blas Brondanw, tŷ'r teulu ers pum can mlynedd. Mae pentref Portmeirion ar agor i ymwelwyr dydd a phreswylwyr nos bob dydd o'r flwyddyn. Perchennog y pentref a hefyd stad Brondanw, eiddo Williams-Ellis yng Nghwm Croesor, sy'n cynnwys Plas Brondanw, yw'r Elusen y Second Portmeirion Foundation neu Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion yn unol a dymuniad y sylfaenydd.

Cyn iddo godi Portmeirion, roedd Williams-Ellis yn chwilio am leoliad addas i bentref ei freuddwydion am flynyddoedd, yn bennaf ar ynysoedd ym mhob cwr o Gymru, ond o'r diwedd penderfynodd brynu a datblygu gorynys Aber Iâ. Roedd e'n credu nad oedd yr enw Aber Iâ yn ddigon "Cymraeg" ac felly newidiodd yr enw i Bortmeirion.

 
Portmeirion o'r traeth

Adeiladwyd y pentref lliwgar ar lethr creigiog ar lan yr afon ac mae'r Campanile, Tŵr y Cloch, sydd ar gopa'r bryn yn ganolbwynt iddo. Y Plasdy sydd yn cael ei ddefnyddio fel gwesty heddiw yw'r unig tŷ gwreiddiol. Ymhlith y tai sydd yn dod o ardaloedd eraill mae tý'r arlunydd Augustus John. Mae'r Neuadd Hercules yn dod o Sir y Fflint a'r Pantheon o Sir Gâr—ond nid yn unig tai cyfan wedi eu symud sy' yn y pentref, ond hefyd colofnau o Fryste a Hooton Hall yn Sir Gâr. Ac er bod y pentref yn ymdebygu i bentref Eidalaidd mae Bwda yno hefyd.

Mae'r pentref yn enwog am fod yn lleoliad y gyfres teledu The Prisoner ac mae e'n safle twristiaid gydag oddeutu 250,000 o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn. Ymhlith ei ymwelwyr enwog mae Noël Coward, Gregory Peck, Ingrid Bergman a Paul McCartney. Ym 1956 ymwelodd y pensaer Frank Lloyd Wright â'r pentref ac roedd e'n falch iawn o'r amgylchedd a'r adeiladau hardd.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu