Mae'r cyfenw Powell yn tarddu o'r enw cysefin Ap Hywel.

Arfbais Powell

Arfbais golygu

Tarian wen â chroes ddu. Mae pedair brân Gernyw o amgylch y groes. Uwchben y mae pen baedd gwyn sydd ag ysgithrau a thafod cochion ar gefndir glas.

Ystyron golygu

Gwyn: Lliw sy'n arwydd o heddwch a didwylledd.

Croes Ddu: Yn dynodi cysondeb.

Baedd: Yn cynrychioli dewrder a dyfalbarhad.

Cefndir Glas: Lliw sy'n arwydd o ffyddlondeb a gwirionedd.

Arwyddair golygu

Inter hastas et hostes sef 'Ymysg gwaywffyn a gelynion'.