Prifysgol Brookes Rhydychen

prifysgol yn Rhydychen, Lloegr

Prifysgol fodern yn Rhydychen ydy Prifysgol Brookes Rhydychen (Saesneg: Oxford Brookes University), enwyd ar ôl pennaeth cyntaf y brifysgol, John Brookes. Ni ddylid drysu rhwng y brifysgol hon a Prifysgol Rhydychen. Coleg polytechnig oedd Brookes Rhydychen, cyn iddi dderbyn statws prifysgol.

Prifysgol Brookes Rhydychen
ArwyddairExcellence in diversity Edit this on Wikidata
Mathprifysgol gyhoeddus, sefydliad addysg uwch, cyhoeddwr mynediad agored, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1865 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHeadington Edit this on Wikidata
SirRhydychen, Swydd Rydychen Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.7543°N 1.2227°W Edit this on Wikidata
Cod postOX3 0BP Edit this on Wikidata
Map
Prifysgol Brookes Rhydychen
Oxford Brookes University
Logo Prifysgol Brookes Rhydychen
Arwyddair "Excellence in diversity"
Arwyddair yn Gymraeg "Rhagoriaeth mewn amrywiaeth"
Sefydlwyd 1992, o Polytechnic Rhydychen (1970), ond yn wreiddiol o Ysgol Gelf Rhydychen (1865)
Math Cyhoeddus
Canghellor Shami Chakrabarti
Is-ganghellor Athro Janet Beer
Myfyrwyr 19,070[1]
Israddedigion 13,645
Ôlraddedigion 5,120[1]
Myfyrwyr eraill 300 FE[1]
Lleoliad Rhydychen, Baner Lloegr Lloegr
Tadogaethau Universities UK
Association of MBAs
Gwefan http://www.brookes.ac.uk/

Hanes golygu

Mae gwreiddiau Brookes Rhydychen yn mynd yn ôl i 1865, pan adnabuwyd hi fel Ysgol Gelf Rhydychen, lleolwyd mewn un ystafell ar lawr gwaelod y Taylor Institution, St. Giles. Ym 1870 cyfunwyd hi gyda'r Ysgol Wyddoniaeth. Ym 1871 gorfodwyd i'r ysgol, oedd newydd ei chyfuno, wasgu i mewn i islawr y Taylor Institution, er mwyn gwneud lle i Ysgol Gelf Ruskin. Crëwyd Labordy Cemeg newydd yn yr Ysgol Wesleyan ym 1888. Ym 1891, caiff ei gymryd drosodd o dan weinyddiaeth Pwyllgor Cyfarwyddyd Technegol Cyngor y Dref, a'i ailenwi yn Ysgol Dechnegol Dinas Rhydychen (Oxford City Technical School), a gwnaethpwyd cynlluniau i'w ail-leoli i gyn-adeiladau'r Blue Coat School for Boys, St. Ebbes, lle symudont ym 1894. Ond erbyn 1899, roedd yr ysgol wedi tyfu'n gyflym a datganwyd fod yn safle'n anaddas gan yr Adran dros Gwyddoniaeth a Chelf. Gwaharddwyd ymestyn y safle, ond bu i'r ysgol aros yno am 50 mlynedd wedi hyn.[2]

Ym 1934 cyfunwyd Ysgol Gelf Ruskin a'r Ysgol Dechnegol, ac apwyntiwyd John Henry Brookes, Is-bennaeth yr Ysgol Dechnegol yn Bennaeth cyntaf ar y sefydliad newydd. Ailenwyd yn Goleg Technoleg Rhydychen (Oxford College of Technology) ym 1956, a sefydlwyd y neuadd breswyl gyntaf ym 1960 ac ail-leolwyd y coleg i Headington ym 1963. Ym 1970, daeth yn Polytechnig Rhydychen (Oxford Polytechnic), ac ym 1992, yn dilyn cyflawniad deddf Addysg Uwch a Phellach, ailenwyd yn Brifysgol Brookes Rhydychen.[2][3]

Ym mis Hydref 2003, daeth prifysgol Brookes yn brifysgol cyntaf y byd i ennill statws Masnach Deg.[4] Yn 2007, daeth Brookes yn bumed yn nhabl cynghrair amgylcheddol newydd prifysgolion, a derbyniodd raddfa dosbarth cyntaf am ei nodweddion amgylcheddol.[5]

Er nad yw'n ran o Brifysgol Rhydychen, mae ymysg yr wyth sefydliad allanol sydd gyda'r hawl iw aelodau ymuno gyda Undeb Rhydychen.[6]

Brookes Rhydychen yw'r wythfed cyflogwr o ran maint yn Swydd Rydychen, gan gyflenwi 2,500 o swyddi ar draws y brifysgol.[7]

Ysgolion golygu

Mae wyth ysgol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen:[8]

  • Ysgol Celf a Dyniaethau
  • Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig
  • Ysgol Fusnes
  • Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Ysgol Gwyddorau Bywyd
  • Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a'r Gyfraith
  • Ysgol Technoleg
  • Athrofa Addysg Westminster

Astudiaethau arbenigol golygu

Gwobrwywyd y Ganolfan ar gyfer Datblygiad ac Ymarfer Argyfwng (The Centre for Development and Emergency Practice, CENDEP), yn Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig, Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2001.[9] Mae eu rhaglen adnabyddadwy ymysg ymarferwyr dyngarol. Mae'r CENDEP yn darparu gosodiad academaidd ar gyfer astudiaeth dinasoedd, dyngarwch a ffoaduriaid. Y gantores a'r actifydd Annie Lennox yw noddwr y Cwrs Meistr mewn Ymarferion Dyngarol a Datblygiad ers 2005.[10]

Yn 2007, gwobrwywyd y Meistr Gwyddorau mewn Cadwraeth Primatiaid gyda Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am gyfraniad amlwg tîm y rhaglen a'r Adran Anthropoleg a Daearyddiaeth.[9]

Mae'r Ysgol Dechnoleg yn adnabyddus yn y maes technoleg a pheirianneg chwaraeon modur. Mae noddwyr pencampwr Formula One y byd, Fernando Alonso, yn darparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr astudio gradd meistr mewn peirianneg chwaraeon modur yn y brifysgol.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07" (Microsoft Excel spreadsheet). Higher Education Statistics Agency. Cyrchwyd 2008-04-12.
  2. 2.0 2.1  Timeline. Prifysgol Brookes Rhydychen.
  3.  Nick Pandya (27 Ebrill 2002). Oxford Brookes University School of Business. The Guardian.
  4.  Fairtrade policy. Prifysgol Brookes Rhydychen.
  5.  People & Planet Green League. People & Planet (2007).
  6.  The Rules, Standing Orders, and Special Schedules of the Oxford Union Society. Oxford Union Society.
  7.  Current Job vacancies. Prifysgol Brookes Rhydychen.
  8.  Oxford Brookes Academic Schools. Prifysgol Brookes Rhydychen.
  9. 9.0 9.1  MSc in Primate Conservation awarded prestigious Queen’s Anniversary Award. Prifysgol Brookes Rhydychen.
  10.  Annie Lennox programme patron. Prifysgol Brookes Rhydychen.
  11.  Cajastur unveils 'Fernando Alonso scholarship'. F1 Technical (27 Chwefror 2007).

Dolenni allanol golygu