Mae Mwslimiaid yn ystyried sawl bod dynol yn un o broffwydi Islam.

Proffwydi yn y Coran golygu

Enwir sawl proffwyd yn Coran, gan ddechrau gyda Adda, "y dyn cyntaf". Cred Mwslemiaid fod y proffwydi hyn yn olyniaeth dan law Duw (Allah) ac mai'r Proffwyd Muhammad yw'r olaf am iddo ddatgelu y Coran i'r dynolryw (ond cred rhai yn nyfodiad y Mahdi hefyd).

Enw (Arabeg) Enw (Beiblaidd) Prif erthygl(au) Cyfeiriadau yn y Coran (nifer y sŵras lle ceir cyfeiriadau)
آدم
Adam
Adda 5

"Adda yw proffwyd cyntaf Islam a'r bod dynol cyntaf i gael ei greu." Mae'n ffigwr pwysig yn Iddewiaeth a'r Gristnogaeth hefyd sy'n cael ei gysylltu yn bennaf a hanes Adda ac Efa fel y'i ceir yn Llyfr Genesis, y Coran a ffynonellau eraill.

إدريس
Idris
Enoc 3

Roedd Idris yn broffwyd a achubodd y ddynoliaeth rhag sychder mawr trwy weddio ar Dduw am law.

نوح
Nuh
Noa
Prif: Noa yn Islam a Noa
7

Cysylltir Noa a hanes y Dilyw, ond yn Islam fe'i cofir yn bennaf am hyrwyddo unduwiaeth.

هود
Hud
Eber 9

Un o'r ychydig rai i oeroesi dilyw a anfonwyd gan Dduw oedd Hud (Eber), yn ôl y sŵra Hud yn y Coran.

صالح
Saleh
Shaloh
Prif: Saleh
7

Yn ôl y Coran, dewiswyd Saleh gan Dduw i achub ei bobl rhag cosb ddwyfol.

إبراهيم
Ibrahim
Abraham 5

Ibrahim yw un o broffwydi mwyaf Islam am fod Mwslemiaid yn credi iddo ailgodi'r Kaaba ym Mecca. Ei fab oedd Ishmael.

لوط
Lut
Lot
Prif: Lot yn Islam a Lot
2

Cofir am Lot yn Islam am ei ran yn hanes Sodom a Gomorra. Mae Islam yn gwrthod rhai o'r hanesion amdano yn y Hen Destament, iddo feddwi a chysgu gyda'i merched er enghraifft, fel rhai cableddus ac enllibus.

إسماعيل
Isma'il
Ishmael
Prif: Ishmael
9

Mab cyntafanedig Ibrahim a phroffwyd mawr yn Islam yw Ishmael. Fe'i cysylltir a darganfod y ffynnon sanctaidd Zamzam, ger Mecca.

إسحاق
Ishaq
Isaac
Prif: Isaac
9

Ail fab Abraham oedd Isaac, a ddaeth yn broffwyd yng ngwlad Canaan.

يعقوب
Yakub
Iacob
Prif: Iacob
2

Roedd Yakub yn broffwyd a mab i Isaac, a barhaodd a gwaith ei daid Abraham.

يوسف
Yusuf
Ioseff 3

Mab Iacob a disgynydd i Ibrahim oedd Yusuf. Ceir hanes amdano yn gynghori brenin yr Aifft. Yn ôl dysgeidiaeth Islam, bendithwyd Yusuf â harddwch eithriadol.

أيوب
Ayyub
Job
Prif: Job
8

Bendithwyd Ayyub â ffynnon ieunctid am ei wasanaeth i Dduw yn ei dref ger Al Majdal.

شعيب
Shu'aib
Jethro
Prif: Shoaib a Jethro
2

Un o ddisgynyddion Abraham oedd Shu'aib. Roedd yn byw yn ardal Sinai.

موسى
Musa
Moses 5

Ceir mwy o gyfeiriadau at Musa yn y Qur'an nag at unrhyw broffwyd arall. Credir iddo ddatguddio'r Tawrat (Torah) i'r Hebreaid. Fe'i cysylltir ag ardal Sinai lle cafodd y Deg Gorchymyn wrth arwain yr Hebreaid o'r Aifft i Dir yr Addewid.

هارون
Harūn
Aaron
Prif: Aaron
8

Brawd Musa (Moses) oedd Harun (Aaron).

ذو الكفل
Dhul-Kifl
Ezekiel
Prif: Dhul-Kifl a Ezekiel
5

Mae statws Dhul-Kifl fel proffwyd yn ddadleuol yn Islam, er bod parch mawr ato fel arall. Mae rhai ymchwilwyr yn ceisio ei uniaethu ag Obadiah yn y Beibl.

داود
Dawud
Dafydd
Prif: Dafydd
7

Yn Islam, datgelodd Duw y Zabur (Salmau) i Dawud. Ef hefyd a orchfygodd y cawr Goliath.

سليمان
Süleyman
Solomon 6

Mab Dafydd a phroffwyd doeth oedd Solomon (Arabeg: Süleyman). Cafodd y ddawn i reoli elfennau natur, yn cynnwys y jinn. Roedd ei deyrnas yn ymestyn o Balesteina hyd Arabia, yn ôl y Coran.

إلياس
Ilyas
Elija
Prif: Elija
3

Un o ddisgynyddion Harun (Aaron) oedd Ilyas (Elijah), a olynodd y brenin Sulaiman (Solomon).

اليسع
Al-Yasa
Elisha
Prif: Elisha
3

Proffwyd a arweiniodd ei bobl ar ôl marwolaeth Elija oedd Al-Yasa (Elisha).

يونس
Yunus
Jonah
Prif: Jonah
5

Yn Islam mae Duw yn gorchymun Yunus (Jonah) i arwain pobl Ninefeh ar lwybr cyfiawnder.

زكريا
Zakariya
Zechariah
Prif: Zechariah
6

Yn ddisgynnydd i Solomon, Zakariya (Zechariah) oedd ymgeleddwr Maryam (Mair, mam 'Isa.

يحيى
Yahya
Ioan Fedyddiwr 2

Yahya (Ioan) oedd cefnder Isa; does dim cyfeiriad ato yn bedyddio Iesu yn y Coran.

عيسى
Isa
Iesu 3

Ystyrir Isa yn un o broffwydi pennaf Islam, fel Eisa al-Maseeh, (Iesu y Meseia). Nid yw'n cael ei dderbyn fel unig Fab Duw ond yn hytrach fel nabi a rasul (negesydd) Duw.

محمد
Muhammed
Ahmad أحمد
Prif: Muhammed
294

I Fwslemiaid uniongred, Muhammed yw'r olaf o'r proffwydi. Sefydlodd grefydd Islam ar ddechrau'r 7g.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.