Protestiadau argyfwng ariannol Gwlad yr Iâ (2008–2011)

Digwyddodd protestiadau argyfwng ariannol Gwlad yr Iâ 2008–2011, a elwir hefyd yn Chwyldro Gwlad yr Iâ, yn ystod argyfwng ariannol Gwlad yr Iâ. Roedd yna brotestiadau ysbeidiol ers Hydref 2008 yn erbyn y ffordd roedd Llywodraeth Gwlad yr Iâ wedi trin yr argyfwng ariannol. Dwysäodd y protestiadau hyn ar 20 Ionawr 2009 wrth i filoedd o bobl ymgaslu wrth y Senedd (Althing) yn Reykjavík.[1][2][3]

Rhai o'r 6,000 o brotestwyr y tu blaen i'r Alþingishúsið, Senedd Gwlad yr Iâ, 15 Tachwedd 2008

Roedd y protestwyr yn galw am ymddiswyddiad swyddogion y llywodraeth ac am etholiad newydd.[4] Stopiodd y rhan fwyaf o'r protestiadau hyn pan ymddiswyddodd yr hen lywodraeth asgell dde.[5] Ffurfiwyd llywodraeth newydd asgell chwith ar ôl yr etholiad ar ddiwedd mis Ebrill 2009. Roedd hi'n gefnogol i'r protestwyr, a dechreuodd y broses o ddiwygio, gan gynnwys erlyn y cyn-Brif Weinidog sef Geir Haarde o flaen yr Uchel Lys (sef y Landsdómur), mewn erlyniad barwnol.

Cynhaliwyd gwahanol refferenda i gofyn i'r dinasyddion a oedden nhw eisiau talu dyled Icesave eu banciau ai peidio; etholwyd hefyd 30 pobl, nad oeddent yn aelodau o unrhyw blaid wleidyddol i ffurfio Cynulliad Cyfansoddiadol Gwlad yr Iâ gyda'r bwriad o ysgrifennu Cyfansoddiad Gwlad yr Iâ newydd. Ar ôl rhai problemau cyfreithiol, cyflwynodd y Cyngor Cyfansoddiadol Ddrafft o'r Cyfansoddiad i Senedd Gwlad yr Iâ ar 29 Gorffennaf 2011.[6] Bydd y Llywodraeth yn pleidleisio dros y Cyfansoddiad newydd hwn cyn 20 Hydref 2012.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gunnarsson, Valur (21 Ionawr 2009). "Icelandic lawmakers return to work amid protests". Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-31. Cyrchwyd 22 Ionawr 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Iceland protesters demand government step down". Reuters. 20 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-03. Cyrchwyd 22 Ionawr 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Icelandic police tear gas protesters". Associated Press. 22 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-31. Cyrchwyd 22 Ionawr 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Unknown parameter |coauthors= ignored (help)
  4. "Opposition attempts to call Iceland elections, bypassing PM". icenews.is. 22 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-24. Cyrchwyd 22 Ionawr 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Nyberg, Per (26 Ionawr 2009). "Icelandic government falls; asked to stay on". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-29. Cyrchwyd 31 Ionawr 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Stjórnlagaráð 2011 – English". Stjornlagarad.is. 29 July 2011. Cyrchwyd 18 Hydref 2011.