Pryniant Louisiana

Pryniant Louisiana (Y Louisiana Purchase) yw'r tir a brynwyd gan lywodraeth Unol Daleithiau America oddi wrth Ffrainc am 27,267,622 o ddoleri ar 30 Ebrill 1803. Roedd y tir yn cynnwys ardal eang yn gorwedd rhwng Afon Mississippi a mynyddoedd y Rockies. Dwblodd y Pryniant faint yr Unol Daleithiau gan sicrhau ei dominyddiaeth yng Ngogledd America o hynny ymlaen.

Pryniant Louisiana (yr ardal ganolog)

Louisiana (yn wahanol i'r dalaith o'r un enw) oedd yr enw roddodd y Ffrancod ar ardal anferth a ddaeth i'w meddiant yn 1682. Roedd yn cynnwys y cyfan o'r hyn sy'n ganolbarth yr Unol Daleithiau heddiw, o'r Llynnoedd Mawr yn y gogledd i Gwlff Mexico yn y de-orllewin ac o'r trefedigaethau Prydeinig ar yr arfordir dwyreiniol i'r Rockies (ac eithrio Texas). Yn 1763 fe'i ildiwyd i Sbaen a Phrydain Fawr, ond yn 1800 rhoddwyd y rhan orllewinol yn ôl i Ffrainc gan y Sbaenwyr. Dyma'r diriogaeth a werthwyd i'r Unol Daleithiau yn 1803.

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.