Pskov

dinas yn Rwsia

Dinas yng ngogledd-orllewin Rwsia yn agos at y ffin ag Estonia, yw Pskov (Rwsieg Псков, Hen Rwsieg Пльсковъ / Pl'skov", Estoneg Pihkva, Almaeneg Pleskau). Mae ganddi 201,019 o drigolion (2004). Canolfan weinyddol oblast Pskov yw hi.

Pskov
Mathokrug ddinesig, dinas Hanseatig, tref/dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Ru-Псков.oga Edit this on Wikidata
Poblogaeth209,840 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 903 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIvan Tsetserski Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Neuss, Valmiera, Perth, Roanoke, Virginia, Białystok, Gera, Nijmegen, Arles, Norrtälje Municipality, Daugavpils, Derbent, Surgut, Severodvinsk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolOblast Pskov Edit this on Wikidata
SirOblast Pskov Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd96 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr45 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.82°N 28.33°E Edit this on Wikidata
Cod post180000–180999 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIvan Tsetserski Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth golygu

Mae Pskov yn sefyll ar aber yr Afon Pskova ag Afon Velikaya yn agos at Lyn Pskov, sy'n llifo i mewn i Lyn Peipus. Fe'i lleolir tua 290 km i'r de o St Petersburg a 20 km i'r dwyrain o'r ffin ag Estonia. Mae pwynt mwyaf gorllewinol Rwsia (heblaw am oblast Kaliningrad) yn gorwedd yn agos. Mae Pskov ymysg dinasoedd hynaf Rwsia. Am ganrifoedd roedd yn gaer yn amddiffyn ffin orllewinol y wlad.

Hanes golygu

Hanes canoloesol golygu

Mae'r ddinas yn dyddio o'r Oesoedd Canol. Daw enw'r ddinas o enw Afon Pskova. Ceir y cyfeiriad cyntaf ato yn 903 yn y Brut Cynradd Rwsieg, pryd dywedir i Olga (wedyn Santes Olga) ddod o Pskov i briodi Igor (wedyn Tywysog Kiev). Serch hynny, mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos bod tref ar y safle am gannoedd o flynyddoedd cyn hynny. Yn ystod y 12g a'r 13g, roedd Pskov yn rhan o Weriniaeth Novgorod. Fe'i cipiwyd am ychydig o fisoedd gan y Marchogion Tiwtonaidd ym 1241, ond cafodd ei rhyddháu ar ôl Brwydr Llyn Peipus gan Dywysog Alexander Nevsky. Cryfhawyd agwedd annibynnol Pskov gan Dywysog Dovmont, tywysog Lithwanaidd a wahoddwyd i reoli yn 1266. Erbyn y 14g roedd y ddinas wedi tyfu'n fwy annibynnol oddi wrth Novgorod, sefyllfa a gydnabuwyd yn swyddogol gan Novgorod ym 1348. Daeth masnachwyr y ddinas yn rymusach, ac ymunodd â'r Gynghrair Hanseatig. Roedd Gweriniaeth Pskov annibynnol yn gorfod amddiffyn ei ffiniau gorllewinol yn gyson yn erbyn ymosodiadau gan Lithwania, Pwyliaid a'r Marchogion Tiwtonaidd. Ym 1510, goresgynnwyd Pskov gan Moscfa, gan ddod yn rhan o'r wladwriaeth Rwsiaidd (Muscovy) am y tro cyntaf.

Hanes modern golygu

 
Y kremlin, Pskov

Ar ôl i Rwsia gymryd Estonia a Latfia yn gynnar yn y 18g, collodd Pskov ei phwysigrwyd fel amddiffynfa, ac roedd ar ei golled yn nhermau economaidd a masnachol hefyd. Ymddiorseddodd Tsar Niclas II yn Pskov ar 2 / 15 Mawrth 1917. Meddiannwyd y dref gan lluoedd Almaenig am un mis ar ddeg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (o fis Tachwedd 1918 tan mis Medi 1919), ac unwaith eto yn ystod yr Ail Ryfed Byd (o 9 Gorffennaf 1941 hyd 23 Gorffennaf 1944). Difrodwyd llawer o adeiladau hynafol, yn enwedig eglwysi, yn ystod yr ymosodiadau.

Enwogion golygu

Gefeilldrefi golygu