Defnyddir y term pyramid am unrhyw adeilad lle mae'r ochrau yn ffurfio triongl ac yn cyfarfod mewn un pwynt. Fel rheol mae gan byramid dair neu bedair ochr, ond gall fod a mwy.

Pyramid Khafre a'r Sffincs

Gan fod y rhan fwyaf o bwysau pyramid yn y rhan isaf, mae pyramidau yn adeiladau hirhoedlog fel rheol. Pyramid Mawr Giza, a deiladwyd gan Khufu, yw'r unig un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd sy'n dal mewn bodolaeth. Adeiladwyd pyramidau mewn nifer o wledydd.

Yr Aifft golygu

Pyramidau'r Aifft yw'r mwyaf enwog o byramidau'r byd. Defnyddid y pyramidau fel claddfeydd ar gyfer brenhinoedd yr Hen Aifft yng nghyfnod Yr Hen Deyrnas. Roedd y pyramid cyntaf a adeiladwyd yn gyfres o risiau, ond yn fuan dechreuwyd gwneud yr ochrau'n wastad a'u gorchuddio a slabiau o garreg galch. Gan fod llawer o bethau gwerthfawr wedi eu claddu gyda'r brenin, a bod y pyramidau yn bethau mor amlwg, roedd lladrad o'r beddau yn broblem fawr er gwaethaf pob ymdrech i'w diogelu.

Nubia golygu

Adeiladwyd Pyramidau Nubia fel cofebau (yn hytrach na beddrodau) i frenhinoedd a breninesau Napata a Meroë. Mae tua 220 ohonynt, ond maent yn llawer llai na phyramidiau'r Aifft. Dylanwad diwylliannol yr Aifft sy'n gyfrifol am y tebygrwydd. Mae pyramidau Nubia yn ddiweddarach na rhai'r Aifft, ac roeddynt yn parhau i gael eu hadeiladu tan tua 300 OC..

Mesopotamia golygu

Gelwid pyrmaidau Mesopotamia yn ziggurat. Gan eu bod wedi eu hadeiladu o friciau mwd, nid oes llawer ar ôl ohonynt. Credir mai ziggurat o'r math yma oedd Tŵr Babel yn y Beibl.


Canolbarth America golygu

Adeiladwyd Pyramidau Canolbarth America gan nifer o wareiddiadau megis y Maya. Roedd y rhain fel rheol ar ffurf cyfres o risiau., gyda theml ar y man uchaf. Efallai mai Pyramid Mawr Cholula, ym Mecsico, oedd yr adeilad mwyaf yn y byd; mae'n dal i gael ei gloddio gan archaeolegwyr ar hyn o bryd.

Pyramidau modern golygu

Yr enwocaf o'r pyramidau modern yw'r un a adeiladwyd uwch mynedfa newydd i Amgueddfa'r Louvre, Paris. Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Americanaidd I. M. Pei, a chafodd ei agor ar 15 Hydref 1988.

Bibliography golygu

  • Wolfgang Kosack: Die altägyptischen Pyramidentexte. In neuer deutscher Uebersetzung; vollständig bearbeitet und herausgegeben von Wolfgang Kosack. Christoph Brunner, Berlin 2012, ISBN 978-3-9524018-1-1.