Pyramidau'r Aifft

Pyramidau'r Aifft yw'r enwocaf o byramidau'r byd, ac maent yn un o brif symbolau gwareiddiad yr Hen Aifft. Cawsant ei hadeiladu fel beddrodau i'r brenhinoedd o'r Hen Deyrnas yn bennaf, er y gall bod rhai yn dyddio o'r Deyrnas Ganol.

Pyramidau'r Aifft
Mathatyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Aifft Yr Aifft
Cyfesurynnau29.9725°N 31.1283°E Edit this on Wikidata
Map
Map o byramidau Giza

Mae rhwng 80 a 111 o byramidau yn yr Aifft heddiw. Y prif safleoedd yw:

Giza golygu

Prif erthygl: Pyramidau Giza

Ceir y pyramidau enwocaf yn Giza, lle mae Pyramid Mawr Khufu, un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd oherwydd ei faint, Pyramid Khafre sydd bron cymaint â Phyramid Menkaure sydd dipyn yn llai, a hefyd y Sffincs Mawr.

Abu Sir golygu

Mae cyfanswm o 57 pyramid yma, gan mai'r safle yma oedd prif gladdfa'r Bedwaredd Frenhinllin. Mae'r rhain yn llai na phyramidau Giza. Y prif rai yw pyramidau Niuserre, Neferirkare Kakai a Sahure. .

Saqqara golygu

Ymhlith y pyramidau yma mae Pyramid Djoser, yr hynaf o byramidau'r Aifft. Mae'r pyramid yma wedi ei adeiladu ar ffurf grisdiau, yn wahanol i'r rhai diweddarach. Mae Pyramid Unas yma hefyd.

Dahshur golygu

Yma mae pyramid deheuol Sneferu, a elwir y pyramid crwca am fod yr ongl yn newid ran o'r ffordd i fyny'r pyramid. Yn ddiweddarach adeiladodd Sneferu y Pyramid Coch, y trydydd fwyaf yn yr Aifft ar ôl pyramidau Khufu a Khafre yn Giza. Yma hefyd mae'r Pyramid Du. a adeiladwyd gan Amenemhet III.

Meidum golygu

Adeiladodd Sneferu byramid yn Meidum hefyd, ond mae wedi ei ddifrodi'n ddifrifol. Cred rhai archaeolegwyr mai dyma'r ymgais gyntaf i adeiladu pyramid gydag ochrau syth yn hytrach na grisiau; a'i fod wedi ei ddilyn gan byramidau mwy llwyddiannus o'r math yma yn Dahshur.