Y Pythia oedd yr offeiriades oedd yn rhoi y proffwydioliaethau yn oracl Delphi yng Ngroeg yr Henfyd. Sefydlwyd oracl Delphi tua'r 8g cyn Crist, a chofnodir y broffwydoliaeth olaf yn 393 OC., pan gaewyd y temlau paganaidd gan yr ymerawdwr Theodosius I. Roedd oracl Delphi yn enwog trwy wlad Groeg a thu hwnt. Credid fod y duw Apollo yn siarad trwy'r Pythia.

Yn wreiddiol merch ieuanc oedd y Pythia, ond erbyn y cyfnod clasurol, hen wraig oedd hi, ond yn gwisgo gwisg merch ieuanc. Byddai'n rhoi'r broffwydoliaeth yn eistedd ar bair, gyda mŵg o'r pair o'i chwmpas. Pan oedd yr oracl ar ei anterth, roedd tair gwraig yn gwneud y gwaith yma, dwy yn cymeryd eu tro ar y pair ac un arall wrth gefn.

Byddai'r sawl oedd yn dymuno ymgynghori a'r oracl yn dynesu ar hyd y Ffordd Sanctaidd, gan ddwyn gafr i'w haberthu ac arian i'r oracl.

Yn aml roedd union ystyr proffwydoliaethau'r oracl yn aneglur i'r ymholwr. Rhai enghreiffiau o'r proffwydoliaethau oedd:

  • Yn 546 CC. roedd Croesus, brenin Lydia yn dymuno ymosod ar Ymerodraeth Persia. Cyn gwneud hynny, gyrrodd gennad i Delphi i ofyn barn yr oracl. Ateb yr oracl oedd, pe croesai Croesus Afon Halys, byddai'n dinistrio ymerodraeth fawr. Cymerodd Croesus hyn fel arwydd i fynd ymlaen a'i ymgyrch, ond gorchfygwyd ef gan Cyrus Fawr, brenin Persia. Gwireddwyd geiriau'r oracl; ond yr ymerodraeth a ddinistriwyd gan Croesus oedd ei ymerodraeth ef ei hun.
  • Pan ymosododd Ymerodraeth Persia ar wlad Groeg yn 480 CC. gofynnodd y Spartiaid am broffwydoliaeth. Ateb y Pythia oedd y byddai un o ddau beth yn digwydd: un ai byddai Sparta'n cael ei dinistrio gan y Persiaid, neu byddai'n galaru am un o'i brenhinoedd. Lladdwyd Leonidas, brenin Sparta, ym Mrwydr Thermopylae.
  • Yn ystod yr un rhyfel, gofynnodd yr Atheniaid am broffwydoliaeth. Ateb cyntaf y Pythia oedd dweud wrthynt am ffoi ar unwaith rhag y dinistr oedd ar ddyfod. Cynghorwyd yr Atheniaid gan yr offeriaid i ofyn i'r Pythia eto, a'r ateb y tro hwn oedd, er y byddai popeth arall yn cael ei ddinistrio, eto fe safai'r "muriau pren". Bu dadlau yn Athen ynghylch ystyr yr ymdrodd. Dadleuai Themistocles mai'r llynges oedd y "muriau pren", a bod yr oracl yn dweud wrthynt am ymddiried yn y llynges i achub Athen. Gwireddwyd y broffwydoliaeth pan orchfygwyd y llynges Bersaidd ym Mrwydr Salamis.