R. M. Lockley

ffermwr, naturiaethwr, cadwraethwr ac awdur

Roedd Ronald Mathias Lockley (8 Tachwedd 190312 Ebrill 2000) yn adarydd, naturiaethwr ac awdur o Gymro a dreuliodd ran olaf ei oes yn Seland Newydd. Fe'i maged yng Nghaerdydd.

R. M. Lockley
Ganwyd8 Tachwedd 1903 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ebrill 2000 Edit this on Wikidata
Te Puke Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethadaregydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantMartin Lockley Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Undeb yr Undeb Adaryddiaeth Prydeinig Edit this on Wikidata

Yn 1927 cymerodd Lockley drosodd y brydles ar Ynys Sgogwm, oddi ar arfordir de Penfro, a sefydlodd yr arsyllfa adar cyntaf yng yngwledydd Prydain yno yn 1933.

Roedd Lockley yn awdur toreithiog a ysgrifennodd dros hanner cant o lyfrau ar adar a bywyd gwyllt, poblogaidd a gwyddonol, gan gynnwys The Private Life of the Rabbit (1965), a ysbrydolodd Richard Adams i sgwennu'r llyfr adnabyddus Watership Down.

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.