Ffordd o anfon signalau heb fod trwy weiar, trwy modyliad tonnau electromagnetig ar amleddau is nag amleddau golau yw radio. Gelwir y peiriant sydd yn derbyn y signalau a'u troi yn sain, sef y derbynnydd radio, hefyd yn aml yn 'radio'.

Radio o 1931
Radio digidol (DAB) 2008

Hanes golygu

 

Dechreuodd hanes y radio mewn nifer o lefydd. Dangosodd Nikola Tesla y radio cyntaf i'r cyhoedd yn St. Louis, Missouri yn UDA ym 1893. Y flwyddyn wedyn, bu Syr Oliver Lodge, ffisegydd o Brydain yn defnyddio peiriant o'r enw coherer i gario signalau ar donnau radio. Bu Edouard Branly o Ffrainc ac Alexander Popov o Rwsia yn diwygio'r peiriant hon.

Cofrestrodd Guglielmo Marconi breinlen cyntaf y byd ar gyfer radio ym 1896 (British Patent 12039) ac ym 1909 cafodd Marconi a Karl Ferdinand Braun Gwobr Nobel Ffiseg am gyfrannu i ddatblygiad technoleg radio. Ym 1898, adeiladwyd y ffatri radio cyntaf gan Marconi, hefyd. Safai'r ffatri yn Hall Street, Chelmsford, Lloegr ac roedd tua 50 o bobl yn gweithio ynddi.

Trawsyrrwyd y rhaglen radio cyntaf ar Noswyl Nadolig 1906 o Brant Rock, Massachusetts i longau ar y môr. Darlledwyd y rhaglen newyddion cyntaf ar 31 Awst, 1920 o Detroit, Michigan ac ym 1922 dechreuwyd darlledu rhagleni adloniant yn rheolaidd am y tro cyntaf o'r Marconi Research Centre (Canolfan Ymchwil Marconi) a oedd yn y ffatri radio yn Writtle ger Chelmsford.

Mae datblygiadau technolegol yr ugeinfed ganrif ym maes radio yn cynnwys transistorau, lloerenni i drosglwyddo signalau a radio rhyngrwyd.

Radio yn yr iaith Gymraeg golygu

 
BBC Radio Cymru – prif ddarlledwr sain yn Gymraeg

Hwyrfrydig iawn oedd y BBC o ddarlledu yn Gymraeg a Gaeleg yn ystod dyddiau cynnaf y radio. Cynhyrchai gorsaf darlledu Caerdydd peth o'i deunydd ei hun yn y 1920au, gan gynnwys ambell i gân a sgwrs Gymraeg. Ar orsaf 5WA, Caerdydd, y clywyd Cymraeg gyntaf erioed ar y radio ar 13 Chwefror, 1923 ar gân gan Mostyn Thomas, ac ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1923 ar lafar gan y Parchedig Gwilym Davies ac yna gan Huw J. Huws. Ond ardal Caerdydd yn unig a glywai'r darllediadau Cymraeg hyn. Yr unig raglen Gymraeg a glywid ledled Cymru oedd y rhaglen a ddarlledwyd o 1927 ymlaen o Ddulyn. Roedd arweinyddiaeth y BBC yn cynnal polisi darlledu cenedlaethol Brydeinig a Seisnig ac yn gwrthod sefydlu gwasanaeth Cymreig na Chymraeg am hir amser. Wedi ymgyrchu dygn yng Nghymru caniatawyd i stiwdio Bangor gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o 1935 ymlaen. Darllediad gan David Lloyd George ar 8 Tachwedd 1923 oedd y darllediad Cymraeg cyntaf o stiwdio Bangor.

Radio ton-leidr golygu

Yn ogystal â gorsafoedd radio awdurdodedig, ceir gorsafoedd radio ton-leidr, sef gorsafoedd, yn aml yn fyr-hoedlog a gwleidyddol eu naws, nad sydd â thrwydded darlledu. Bu'r rhain yn boblogaidd yn yr 1950-70au pan oedd fel rheoli monopoli ar ddarlledu radio gan y wladwriaeth a gydag hynny, diffyg mynegiant i ddiwylliant pop neu ddiwylliannau ac ieithoedd lleiafrifol o fewn y wladwriaeth. Ym Mhrydain meddylir am Radio Luxembourg ac yng Nghymru ceir enghraiff Radio Ceiliog gan gefnogwyr Plaid Cymru.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

Chwiliwch am radio
yn Wiciadur.