Mae Rājasthān (Devanāgarī: राजस्थान) yn dalaith yng ngorllewin India. Hi yw'r fwyaf o daleithiau India o ran arwynebedd, 342,239 km² (132,139 mi²) ond mae'n cynnwys Anialwch Thar. Mae'n ffinio â Mhacistan yn y gorllewin, Gujarat yn y de-orllewin, Madhya Pradesh yn y de-ddwyrain, Uttar Pradesh a Haryana yn y gogledd-ddwyrain a Punjab yn y gogledd. Roedd y boblogaeth yn 56.47 miliwn yn 2001.

Rajasthan
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlbrenin Edit this on Wikidata
PrifddinasJaipur Edit this on Wikidata
Poblogaeth68,548,437 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Ionawr 1950 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBhajan Lal Sharma Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hindi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd342,269 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPunjab, Haryana, Uttar Pradesh, Gujarat, Madhya Pradesh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27°N 74°E Edit this on Wikidata
IN-RJ Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolRajasthan Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholRajasthan Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethKalyan Singh, Kalraj Mishra Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Rajasthan Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBhajan Lal Sharma Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas y dalaith yw Jaipur. Yn nwyrain y dalaith mae nifer o barciau cenedlaethol adnabyddus am eu bywyd gwyllt; Ranthambore a Sariska am deigrod a Parc Cenedlaethol Keoladeo ger Bharatpur am adar.

Ffurfiwyd Rajasthan ar 30ain Mawrth 1949, pan unwyd y gwladwriaethau tywysogaethol yn India; mae'n cyfateb yn fras i'r hen Rajputana. O ran crefydd, mae 88.8% o drigolion Rajasthan yn ddilynwyr Hindwaeth, 8.5% yn dilyn Islam, 1.4% yn Sikhiaid a 1.2% yn ddilynwyr Jainiaeth. Mae'r mwyafrif yn siarad yr iaith Rajasthani fel iaith gyntaf.

Lleoliad Rajasthan yn India


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry