Cyhoeddwyr masnach cyffredin, yn yr iaith Saesneg, mwyaf y byd ydy Random House, Inc.. Mae'n eiddo i gorfforaeth rhyngwladol y cyfryngau, Bertelsmann. Random House yw'r brand ymbarél ar gyfer adran cyhoeddi llyfrau Bertelsmann book.

Random House
Math
cyhoeddwr
Math o fusnes
cwmni cyd-stoc
DiwydiantCyhoeddi
Sefydlwyd1927
SefydlyddBennett Cerf
PencadlysRandom House
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
PerchnogionBertelsmann
Rhiant-gwmni
Penguin Random House
Gwefanhttp://www.randomhouse.com/ Edit this on Wikidata
Logo Random House

Bydd Random House yn cyfuno â Penguin yn 2013 i ffurffio Penguin Random House, gyda chyfran o 26% o'r farchnad lyfrau fyd-eang.[1]

Random House, Yr Unol Daleithiau golygu

Mae'r tŷ cyhoeddi Random House yn seiliedig yn Efrog Newydd. Sefydlwyd yn 1925 gan Bennett Cerf a Donald Klopfer, pan ddaeth imprint Modern Library iw meddiant. Mae Cerf yn cael ei ddyfynnu'n dweud, "We just said we were going to publish a few books on the side at random," a chynnigiodd hyn yr enw Random House. Daeth y cwmni i feddiant yr amryfaen cyfryngau Almaenig, Bertelsmann, ynghanol controfersi yn 1998, pan ddywedont gelwydd i guddio cysylltiadau gyda'r oes Natsiaidd yn ystod y broses o'u cymryd drosodd.[2]

Mae ei imprints Americanaidd yn cynnwys y Bantam Dell Publishing Group, Crown Publishing Group, Doubleday Broadway Publishing Group, Knopf Publishing Group, Random House Audio Publishing Group, Random House Diversified Publishing Group, Random House Information Group, Random House Ballantine Publishing Group, a Random House Ventures. Mae Del Rey Manga yn cyhoeddi manga yn Saesneg yng Ngogledd America.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Random House, y Deyrnas Unedig golygu

Yn y Deyrnas Unedig, mae Random House Group Limited wedi ei gyfansoddi o bedwar is-adran gyda gofynion cyhoeddi gwahanol: Random House, Transworld, Ebury Publishing a Random House Children's Books. Mae'r imprints yn cynnwys Jonathan Cape, Harvill Secker, Chatto and Windus, Vintage ynghyd â Vintage Classics, Pimlico, Yellow Jersey, Century, Willian Heinemann, Hutchinson, Arrow, Random House Audio Books, Random House Business Books, Ebury Press, Vermilion, Rider, Bantam Press, Doubleday, Corgi, Black Swan, Fodor, Time Out, WaterBrook Press a Mainstream.

Maent hefyd yn berchen ar Tanoshimi, sy'n cyhoeddi manga yn Saesneg yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Un imprint o adran Random House Children's Books division yw Dell Laurel-Leaf Books, sy'n cyhoeddi nofelau ar gyfer oedolion ifanc. Daw'r enw oDell Publishing, a fu gynt yn gwmni arwahan i Random House. Mae is-gwmniau eraill yn cynnwys Mandarin Publishing, sy'n canolbwyntio ar ffuglen hapfasnachol.

Mae swyddfeydd Random House yn y Deyrnas Unedig wedi eu lleoli yn Pimlico ac Ealing, Llundain.

Random House, yr Almaen golygu

Cyhoeddwyr ail fwyaf yr Almaen ydy Verlagsgruppe Random House GmbH, gyda imprints megis C. Bertelsmann Verlag, Deutsche Verlags-Anstalt (DVA), Falken-Verlag, Goldmann Verlag, Heyne-Verlag, Luchterhand Literaturverlag a Manesse Verlag.

Random House eraill golygu

Mae gan Random House hefyd swyddfeydd yng Nghanada, Awstralia a Seland Newydd. Yn Awstralia, mae'r swyddfeydd yn Sydney a Melbourne. Yn Seland Newydd, maent wedi eu lleoli yn Glenfield, Auckland.

Imprint golygu

Ffynonellau golygu

  1. (Saesneg) Pearson, Bertelsmann Confirm Publishing Tie-Up. Associated Press. NPR (29 Hydref 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
  2. (Saesneg) Bertelsmann admits Nazi past. BBC. Adalwyd ar 2 Hydref, 2002.

Dolenni Allanol golygu