Ras Gychod Rhydychen a Chaergrawnt

Er 1829, cynhelir Ras Gychod Rhydychen a Chaergrawnt, neu Y Ras Gychod (Saesneg: The Boat Race), ar afon Tafwys rhwng Putney a Mortlake yn ne-ddwyrain Lloegr dros 4 milltir a 374 llath (6,779 m), rhwng timau prifysgolion Caergrawnt a Rhydychen. Mae'r ras yn dechrau o bont Putney ac felly maent yn rhwyfo i fyny'r afon ond efo'r llif am fod y Tafwys yn afon gyda llanw a thrai. Defnyddir y llanw uchel fel yr amser i ddechrau'r ras ac felly mae'r dŵr yn llifo i fyny'r afon.

Yr enillwyr hyd at 2019 yw:

Enwir y ddau dîm "the Blues", gyda Chaergrawnt yn gwisgo glas golau a Rhydychen yn gwisgo glas tywyll.

Mae chwarter miliwn yn gwylio o lan yr afon, ac hyd at 120 miliwn dros y byd, yn ôl trefnwyr y ras.

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.