Revolutionary Road (ffilm)

ffilm ddrama rhamantus gan Sam Mendes a gyhoeddwyd yn 2008

Mae Revolutionary Road (2008) yn ffilm ddrama Prydeinig-Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr Golden Globe. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Sam Mendes ac mae'n serennu Leonardo DiCaprio a Kate Winslet. Ysgrifennwyd y sgript gan Justin Haythe yn seiliedig ar nofel o 1961 o'r un enw gan Richard Yates. Rhyddhawyd y ffilm ar 26 Rhagfyr 2008 mewn sinemau cyfyngedig a rhyddhawyd y ffilm ledled yr Unol Daleithiau ar 23 Ionawr 2009.

Revolutionary Road
Cyfarwyddwr Sam Mendes
Cynhyrchydd Bobby Cohen
Sam Mendes
Scott Rudin
Ysgrifennwr Justin Haythe
Yn seiliedig ar nofel
Richard Yates
Serennu Leonardo DiCaprio
Kate Winslet
Kathy Bates
Cerddoriaeth Thomas Newman
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Vantage
Dyddiad rhyddhau 26 Rhagfyr, 2008
Amser rhedeg 119 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg

Crynodeb o'r plot golygu

Mae'r ffilm wedi ei gosod ym 1955, ac mae'n adrodd hanes a gobeithion cymeriad Frank (Leonardo DiCaprio) ac April Wheeler (Kate Winslet) sydd wedi troi'u cefnau ar fywyd dinesig er mwyn magu eu plant ym maesdrefi Connecticut, lle maent yn ystyried eu hunain yn wahanol iawn i'w cymdogion ar Ystadau Revolutionary Hill.

Hoffai April fod yn actores ond mae wedi syrffedu ar ei bywyd fel gwraig tŷ swbwrbaidd ac o ganlyniad, mae'n awgrymu i Frank y dylent symud i Baris er mwyn bywiocau eu priodas rhigolaidd. I ddechrau, mae Frank yn hoffi'r syniad am ei fod yntai yn casau ei swydd, ac ymddengys fod eu perthynas yn cael ail-gyfle. Fodd bynnag, pan gaiff godiad cyflog sylweddol yn sgîl ei ddyrchafiad yn Knox Business Machines, mae'n dechrau ail ystyried y syniad o symud. Dechreua yfed yn drwm a chaiff berthynas gydag ysgrifenyddes ifanc o'r swyddfa i ddathlu ei benblwydd yn 30 oed. Ar yr un pryd, caiff April ei pherthynas ei hun gyda'i chymydog Shep Campbell.

Wrth i'r Wheelers geisio rhyddhau eu hunain o'u bywydau undonog, mae eu priodas yn dirywio'n araf nes ei fod yn un cylch diddiwedd o gweryla a chenfigen tra'n ceisio rhoi'r argraff nad oes unrhyw beth o'i le ar eu perthynas. Dim ond John Givings, mab yr asiant tai lleol Helen a'i gwr Howard, sy'n medru gweld beth yn union sy'n digwydd o dan yr wyneb.

Prif Gast golygu

Gwobrau ac Enwebiadau golygu

Awards
Gwobr Categori Derbyniwr (wyr) Canlyniad
Gwobrau BAFTA Actores Orau Kate Winslet I'w gyhoeddi
Cynllunio'r Gwisgoedd Gorau Albert Wolsky I'w gyhoeddi
Cynhyrchiad Gorau Debra Schutt a Kristi Zea I'w gyhoeddi
Sgript Orau – Addasiad Justin Haythe I'w gyhoeddi
Gwobr Cymdeithas y Cynllunwyr Gwisgoedd 2008 Rhagoriaeth mewn Ffilm Cyfnod Albert Wolsky I'w gyhoeddi
Gwobrau'r Golden Globes Y Ffilm Orau – Drama Enwebwyd
Actor Gorau – Ffilm Ddrama Leonardo DiCaprio Enwebwyd
Actores Orau – Ffilm Ddrama Kate Winslet Enillodd
Cyfarwyddwr Gorau – Ffilm Ddrama Sam Mendes Enwebwyd
Cymdeithas yr Actorion Sgrîn Perfformiad Eithriadol gan Actores Benywaidd mewn Prif Rôl - Ffilm Ddrama Kate Winslet Enwebwyd
Gwobrau Satellite 10 Ffilm Uchaf o 2008 Enillodd
Cyfarwyddo Creadigol a Chynllunio Cynhyrchu Gorau Kristi Zea, Teresa Carriker-Thayer, John Kasarda, a Nicholas Lundy Enwebwyd
Y Ffilm Orau – Drama Enwebwyd
Actor Gorau - Ffilm Ddrama Leonardo DiCaprio Enwebwyd
Sgript Orau – Addasiad Justin Haythe Enwebwyd
Actor Cefnogol Gorau – Ffilm Michael Shannon Enillodd
Gwobrau Beirniaid Ffilm Cymdeithas St. Louis Gateway Actores Orau Kate Winslet Enillodd
Cymdeithas Beirniaid Ffilm Vancouver Actores Orau Kate Winslet
(am Revolutionary Road a The Reader)
Enillodd

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Gleiberman, Owen. "Revoluntary Road." Entertainment Weekly. Rhagfyr 23, 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-08. Cyrchwyd 2009-01-17.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.