Cyfeiria'r gair rhagfarn at farnu rhywbeth cyn gwybod mwy amdano: gwneud penderfyniad cyn bod yn ymwybodol o'r ffeithiau am achos neu ddigwyddiad. Gwnaed defnydd helaeth o'r gair mewn ambell gyd-destun cyfyngedig, er enghraifft yn yr ymadrodd "rhagfarn hiliol". I ddechrau, mae hyn yn gyfeiriad at farnu person ar sail ei hil, crefydd, dosbarth ac yn y blaen, cyn derbyn gwybodaeth berthnasol am y testun sy'n cael ei farnu; fodd bynnag, daeth y term i olygu unrhyw agwedd elyniaethus tuag at pobl yn seiliedig ar eu hil neu hyd yn oed barnu rhywun heb eu hadnabod. O ganlyniad mae'r gair wedi cael ei ddehongli mor aml mewn ffyrdd eraill ar wahân i hil. Ystyr "rhagfarn" erbyn heddiw yw unrhyw agwedd afresymol sydd fel arfer yn gwrthod dylanwad rhesymol. Mae hil, rhyw, ethnigrwydd, rhywioldeb, oed a chrefydd i gyd wedi arwain at ymddygiad rhagfarnllyd yn y gorffennol.

Rhestr rhagfarnau golygu