Ym mytholeg Roeg, un o'r Titaniaid a gwraig Cronos oedd Rhea (Hen Roeg: Ῥέα) neu Rheia (Ῥεία). Roedd yn fam i'r genhedlaeth gyntaf o'r Deuddeg Olympiad: Demeter, Hera, Hades, Hestia, Poseidon a Zeus.

Rhea

Roedd proffwydoliaeth y diorseddid Cronos gan un o'i blant, ac o'r herwydd, llyncodd Demeter, Hera, Hades, Hestia, a Poseidon cyn gynted ag y ganwyd hwy. Rhoddodd Rhea enedigaeth i'r chweched plentyn, Zeus, mewn ogof ar Fynydd Ida ar ynys Creta, a rhoddodd garreg, yr Omphalos, mewn dillad baban i Cronos ei llyncu. Wedi iddo dyfu, gorfododd Zeus ei dad i chwydu ei frodyr a'i chwiorydd, a bu rhyfel, y Titanomachia, rhyngddynt hwy a'r Titaniaid, a diorseddwyd Cronos gan Zeus.

Roedd Mynydd Ida yn gysegredig iddi.